Pensiynwr o flaen Llys Y Goron wedi marwolaeth ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Thomas BryanFfynhonnell y llun, Wales News Live
Disgrifiad o’r llun,

Thomas Bryan (dde) yn cyrraedd Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun ar gyfer ei ymddangosiad llys cyntaf

Mae dyn 75 oed o dde Gwynedd, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig ddydd Nadolig, wedi ymddangos yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug.

Cafodd Thomas Bryan o Fairbourne ei gadw yn y ddalfa wedi'r ymddangosiad wyth munud trwy gyswllt fideo.

Bu farw Vivienne Bryan, 74, mewn byngalo yn Rhodfa Francis, Fairbourne er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hadfywio.

Mae disgwyl i'r diffynnydd gyflwyno ple mewn gwrandawiad ar 20 Mawrth ac mae 22 Mehefin wedi ei bennu ar gyfer dechrau'r achos yn Llys Y Goron Caernarfon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r byngalo toc wedi 20:00 ar 25 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau fod dynes wedi dioddef anafiadau difrifol.