Cau tafarn dros ddathliadau'r Calan 'i atal mwy o drais'
- Cyhoeddwyd
Bydd yna ddim dathliadau Calan mewn tafarn yng nghanol Pwllheli wedi i Heddlu Gogledd Cymru weithredu gorchymyn i'w chau am 48 awr.
Daeth y gorchymyn i rym brynhawn Llun yn dilyn achosion o ymddygiad treisgar dros gyfnod y Nadolig yn nhafarn The Boat House ar Stryd Fawr y dref.
Cafodd swyddogion heddlu ac aelodau'r cyhoedd eu hanafu yn sgil y trafferthion.
Doedd y penderfyniad ddim yn un hawdd, medd yr Arolygydd Rhanbarthol Matt Geddes, "ond mae'n rhaid sicrhau diogelwch y cyhoedd yn y dref" yn ystod dathliadau'r ŵyl.
Dywedodd: "Yn dilyn achosion o drais dros gyfnod y Nadolig arweiniodd at anafiadau i swyddogion heddlu ac aelodau'r cyhoedd, a thrafodaethau wedi hynny gyda rheolwyr yr eiddo, does ganddom ni ddim ffydd yng ngallu neu awydd rheolwyr i atal yn effeithiol, neu ymateb yn briodol, i ragor o drais neu droseddau eraill, yn neu o gwmpas yr eiddo."
Ychwanegodd bod y llu'n cydweithio gyda Chyngor Gwynedd "i sicrhau gwelliant sylweddol os yw'r dafarn am barhau i fasnachu".