Ymchwiliad i farwolaeth sydyn dyn a menyw yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Lakefield Place, LlanelliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Lakefield Place nos Sul, 29 Rhagfyr

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dau berson yn Llanelli.

Cafodd swyddogion eu galw i eiddo yn Lakefield Place ychydig ar ôl 20:30 nos Sul, 29 Rhagfyr.

Cafwyd hyd i gyrff dyn 58 oed a menyw 46 oed y tu mewn i'r eiddo.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae marwolaeth y dyn yn cael ei drin fel llofruddiaeth a marwolaeth y fenyw fel un sydd ddim yn amheus.

"Dyw swyddogion ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."