Myfyrwraig o Sir Gâr yn bencampwraig cic focsio'r byd
- Cyhoeddwyd
Myfyrwraig 21 oed o Sir Gâr yw'r ail ddynes o Brydain yn unig i gael ei choroni'n bencampwraig cic focsio'r byd.
Daeth Tennessee Randall o Lanelli i'r brig yng nghategori dan 56 cilogram pencampwriaeth WAKO (World Association of Kickboxing Organisations) yn Nhwrci ym mis Rhagfyr.
Cafodd hefyd ei choroni fel yr ymladdwr benywaidd gorau ymhlith 50 o bencampwyr ar draws yr holl gategorïau - y cystadleuydd cyntaf o Brydain i gael yr anrhydedd hwnnw.
"Roedd e'n glod mawr i fi," meddai. "Roedd e' mor anodd cadw fy emosiynau dan reolaeth drwy'r wythnos.
"Ro' ni wedi gweithio mor galed ar gyfer hyn."
"Fe ges i'r hyfforddiant gorau bosib gan fy hyfforddwr ym Mhort Talbot ac o'n i'n gwybod pe bai fi'n perfformio i fy ngallu byddai pethau'n OK, ac yn y diwedd dyna beth ddigwyddodd.
"Dwy flynedd yn ôl fe ges i efydd, felly ers dwy flynedd rwyf wedi bod yn gweithio yn galed iawn i wella, ac i droi'r fedal yn un aur."
Fe lwyddodd Tennessee i gipio'r aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Nhachwedd 2018.
Hyd yma mae hi'n ddiguro yn y categori dan 56 cilogram.
Yn ogystal â hyfforddi a chystadlu yn y gamp, mae Tennessee hefyd yn astudio ar gyfer gradd doethuriaeth mewn seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gweithio fel gwirfoddolwr ar gyfer yr elusen iechyd meddwl Hafal.
Mae hi hefyd yn dysgu dosbarthiadau cic focsio yn Llanelli, gyda help ei thad Leigh Randall.
Ond yn ôl ei mam, doedd dim arwydd o'r hyn i ddod pan roedd Tennessee yn blentyn.
"Fe wnaethom drio dawnsio, ac fe wnaeth hynny bara am tua thair gwers," meddai Tracy Randall.
"Yna cynnig ar y piano, a wnaeth hwnna ddim para ddim hirach.
"Yna yn saith oed, fe ddechreuodd hi gic focsio, ac roedd fel petai ei bod wedi canfod yr union beth iddi hi.
"Fe wnaeth hi ddechrau cystadlu yn 11 oed a dydy hi heb stopio ers hynny."
Mae Tennessee nawr yn gobeithio cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd, ac yn falch o fod yn rhan o gamp sy'n herio ystrydebau traddodiadol ac yn cynnig cyfleoedd cyfartal i ddynion a menywod.
"Mae yna ddirnad bod rhaid i chi edrych mewn rhyw ffordd arbennig i ymladd ond gall cic focsiwr fod yn unrhyw siâp neu faint."