Pro14: Gleision 14-16 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets wedi codi i frig Adran B y Pro14 ar ôl buddugoliaeth agos yn erbyn y Gleision ar Barc yr Arfau.
Y tîm cartref oedd y cyntaf i groesi'r llinell wen, gyda bylchiad Hallam Amos yn rhoi rhywfaint o le i Owen Lane gicio'r bêl o'i flaen a thirio.
Daeth y Scarlets yn ôl iddi diolch i ryng-gipiad gwych gan y mewnwr Gareth Davies - a doedd dim modd ei rwystro rhag cyrraedd y llinell gais.
Fe ddaeth moment gorau'r gêm gyda llai na chwarter awr yn weddill.
Gwaith gwych gan Josh Adams lawr yr asgell chwith, chwarae 'un-dau', cyn gwibio heibio'r amddiffyn i groesi am ail gais y Gleision a chau'r bwlch i 14-16.
Ond fe fethodd yr eilydd Jason Tovey gyda chic gosb i roi'r gwŷr mewn glas ar y blaen, yn wahanol i Leigh Halfpenny, wnaeth gicio 11 pwynt i'r ymwelwyr.
Fe lwyddodd Scarlets i ddal eu gafael a sicrhau eu lle ar frig Adran B yn y Pro14 yn y broses.
Roedd y Gleision yn mynd i'r gêm wedi crafu heibio'r ddau ranbarth arall yn y gemau darbi dros yr ŵyl - gyda buddugoliaethau agos yn erbyn y Gweilch a'r Dreigiau.
Roedd y Scarlets yn chwarae am y tro cyntaf ers rhoi crasfa i'r Gweilch, ond roedden nhw wedi colli o drwch blewyn i'r Dreigiau rhai ddyddiau ynghynt.
Gleision Caerdydd:
Amos; Lane, Lee-Lo, B Thomas, Adams; J Evans, T Williams; Gill, Belcher, Andrews, Paulo, Turnbull, Navidi (capt), Boyde, N Williams.
Eilyddion: E Lewis, Domachowski, Assiratti, Ratti, Robinson, L Williams, Tovey, M Morgan.
Scarlets:
Halfpenny; Conbeer, Hughes, Parkes, S Evans; O'Brien, G Davies; W Jones, Owens (capt), Kruger, Ball, Ratuva, Shingler, Macleod, Cassiem.
Eilyddion: Price, Elias, Lee, Lousi, Thomson, Hardy, Lamb, Asquith.