Blwyddyn Newydd Iach 2020
- Cyhoeddwyd
Ydych chi wedi cadw at eich addunedau blwyddyn newydd hyd yma? I lawer ohonom fe fydd cadw'n heini yn uchelgais ar gyfer y flwyddyn newydd.
Felly wrth i ni ffarwelio â chyfnod y Nadolig, dyma ysbrydoliaeth a chyngor gan yr hyfforddwraig ffitrwydd Rhodd ar gyfer 2020 iach a heini.
Yn y fideo, mae Rhodd yn argymell:
1. Ceisio cerdded mwy pob dydd. Dyma ffordd syml a chyflym i wneud ymarfer corff gwerthfawr. Mae angen 150 munud o ymarfer corff bob wythnos felly anelwch am 20 munud o gerdded bob dydd.
2. Ceisiwch fwyta digon o brotein pob dydd. Mae'n helpu adfer eich cyhyrau, yn cadw chi'n llawn ac yn rhoi egni i chi.
3. Ceisiwch yfed digon o ddŵr pob dydd. Mae angen chwech i wyth glased bob dydd - ac ychydig mwy os ydych chi'n gwneud ymarfer corff.
4. Os am gychwyn rhedeg yn y gym neu tu allan, mae dewis eich hoff gân yn gallu hwyluso'r profiad!
5. Mae ymarferion syml fel y planc yn ffordd wych o ymestyn y corff. Gwyliwch y fideo i weld Rhodd yn rhoi cynnig arni.
Pob lwc!