'Dim camau pellach' yn erbyn AC Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu Gwent wedi dweud na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn yr AC Ceidwadol, Nick Ramsay, yn dilyn digwyddiad ar Ddydd Calan.

Cafodd Mr Ramsay, AC Mynwy, ei wahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd ac o'r blaid Geidwadol ddydd Iau wedi i'r digwyddiad ddod i'r amlwg.

Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd Heddlu Gwent: "Fe dderbynion ni adroddiad o aflonyddiad mewn cyfeiriad yn Ffordd Cas-gwent, Rhaglan ar 1 Ionawr am tua 20:05.

"Fe gafodd dyn 44 oed o ardal Rhaglan ei arestio yn dilyn y digwyddiad, ond mae bellach wedi cael ei rhyddhau ac ni fydd camau pellach yn ei erbyn yn dilyn ymchwiliad."

Roedd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y bydden nhw'n adolygu ei waharddiad "yn dilyn ystyriaeth o'r mater gan asiantaethau allanol", ac yn dilyn y datblygiad ddydd Gwener, ychwanegodd y blaid y byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi yn y man.