Achub dyn oddi ar fynydd Cader Idris

  • Cyhoeddwyd
Cader IdrisFfynhonnell y llun, NotFromUtrecht
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tîm achub eu galw oddeutu 15.30 ddydd Sadwrn

Mae dyn 32 oed wedi cael triniaeth ysbyty wedi iddo gael "anafiadau sylweddol i'w ben" tra'n cerdded ar fynydd Cader Idris.

Fe wnaeth achubwyr mynydd alw hofrennydd gwylwyr y glannau i helpu i achub y dyn am oddeutu 15:30 brynhawn Sadwrn.

Yn ôl tîm achub Aberdyfi aed â'r dyn mewn hofrennydd i ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Roedd parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn gysylltiedig â'r gwaith achub.