Tri o bobl yn yr ysbyty wedi damwain ar yr A525

  • Cyhoeddwyd
Y fforddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y ddamwain yn ystod oriau man y bore

Mae tri o bobl wedi eu hanafu mewn damwain yn ystod oriau man y bore ger Wrecsam.

Cafodd un person anafiadau all beryglu bywyd ac mae person arall wedi cael anafiadau difrifol meddai Heddlu'r Gogledd.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A525 ac mae'r heddlu yn apelio i lygaid dystion gysylltu gyda nhw.