Ailddechrau adeiladu ysgol wedi misoedd heb weithwyr
- Cyhoeddwyd

Safle adeiladu ysgol newydd ar Ffordd Salop, Y Trallwng ym Medi 2018
Bydd y gwaith o adeiladu ysgol a gafodd ei adael ar ei hanner yn ailddechrau ar ôl i gyngor benodi contractwyr newydd i orffen y gwaith.
Daeth y gwaith ar ysgol newydd yn Y Trallwng, Powys, i stop yn sgil cwymp y cwmni adeiladu gwreiddiol, Dawnus.
Dywedodd Cyngor Powys bod y gwaith wedi cyrraedd ei hanner cyn yr oedi ym mis Mai y llynedd.
Ond bydd y gwaith bellach yn ailddechrau yn ddiweddarach ym mis Ionawr.
'Cyfnod anodd'
Dechreuodd y gwaith ar yr ysgol - fydd â lle i 360 o ddisgyblion - ym mis Gorffennaf 2018.
Ond daeth yr adeiladu i ben pan aeth Dawnus i'r wal ym Mawrth 2019.

Ni chafodd sawl cynllun arall eu gorffen gan Dawnus, gan gynnwys ailddatblygu Abertawe
Roedd Dawnus yn cyflogi tua 700 o bobl ac yn gyfrifol am 44 o safleoedd adeiladu pan gafodd ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr gyda £50m o ddyled.
Nawr mae'r cyngor wedi penodi Pave Aways Ltd i orffen y gwaith, a hynny yn sgil eu gwaith ar ysgolion eraill yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, aelod cabinet dros addysg: "Mae wedi bod yn gyfnod anodd i gymuned yr ysgol ac rwy' am ddiolch iddynt am eu hamynedd wrth i ni chwilio am gontractwr newydd."
Ychwanegodd y byddai'r ysgol yn cynnig "amgylchedd dysgu lle bydd dysgwyr a'r staff addysgu'n gallu ffynnu a chyrraedd eu potensial" pan fydd wedi gorffen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019