Cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts i gael profion dementia am oes

  • Cyhoeddwyd
Iwan RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Iwan Roberts yn ymosodwr i Norwich City am saith mlynedd

Mae'r cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Iwan Roberts wedi cytuno i dderbyn profion ar ei ymennydd am weddill ei oes fel rhan o astudiaeth i arwyddion cynnar o ddementia.

Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd dros 800 o gemau i glybiau yn cynnwys Watford, Leicester City a Norwich City.

Mae'n galw ar gyn-chwaraewyr eraill i gymryd rhan mewn profion hefyd, yn dilyn gwaith ymchwil diweddar oedd yn awgrymu fod risg uwch o farw o ddementia, a hynny am eu bod yn penio peli'n gyson.

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore dydd Mawrth, dywedodd Mr Roberts: "Dwi'n 51 rŵan, dwi ddim yn mynd yn ddim iau - dwi'n berson sy'n reit anghofus ond dwi'n meddwl fod hynny'n dod hefo henaint hefyd a dweud y gwir.

"Ond i feddwl bod fi'n gyn-bêl-droediwr ac wedi chwarae 800 o gemau, ac mi roedd penio yn rhan fawr o'n gêm i. Dwi'n meddwl ei fod o'n beth da i gadw llygad arno.

"Mae'r profion yma'n syml i'w gwneud - ti'n gallu gwneud nhw adre ar gyfrifiadur a ti'n gallu gwneud nhw bob chwe mis, ac mi wnâi nhw adre a gweld sut mae'r profion nesaf yn cymharu hefo'r rhai nes i ar ddiwedd mis Hydref."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ychydig iawn o wybodaeth sy'n bodoli i awgrymu pryd mae cyn-chwaraewyr yn datblygu dementia, yn enwedig ymysg merched

Yn ystod ei yrfa fe sgoriodd Roberts 239 o goliau mewn 20 mlynedd, cyn ymddeol yn 2005.

Fe fydd Prifysgol East Anglia yn defnyddio canlyniadau'r profion i weld os oes dirywiad wedi bod yn ymennydd y rhai sydd yn cymryd rhan.

A fyddai felly'n gwneud unrhyw beth yn wahanol yn ei yrfa petai'n gwybod fod yr ystadegau mor uchel i gyn-bêl-droedwyr?

"A dweud y gwir - na - faswn i ddim. Roddodd neb wn i fy mhen i i arwyddo cytundeb - dyna oeddwn i isio ei wneud ers fy mod i'n hogyn ifanc - dyna oedd y freuddwyd.

"Roeddwn i isio bod yn chwaraewr pêl-droed, a faswn i heb wneud dim byd yn wahanol a dweud y gwir.

"Mi roedd y boen ar adegau pan roeddet ti'n rhoi dy ben i mewn i rwla - mi roeddet ti'n gwybod dy fod yn mynd i gael dy frifo, ond roedd o werth y boen i roi'r bêl i gefn y rhwyd."

Ychwanegodd Roberts fod peli'n ysgafnach erbyn hyn, ond mae'n dal i gredu fod peryglon, ac mae'n credu y dylai plant gael eu gwahardd rhag penio peli hyd nes eu bod yn cyrraedd oedran arbennig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Michael Grey, o adran gwyddorau iechyd Prifysgol East Anglia: "Rydym yn gwybod nawr fod risg llawer uwch o ddatblygu dementia mewn cyn-chwaraewyr pêl-droed proffesiynol ac rydym yn credu fod hyn y gysylltiedig â phenio'r bêl dro ar ôl tro.

"Felly fe fydd llawer o chwaraewyr allan yna sydd yn bryderus iawn am eu dyfodol."

Dywedodd y Drake Foundation, sy'n cynnal ymchwil i gyfergydion ac anafiadau pen mewn chwaraeon: "Rydym yn falch iawn o weld cynnydd yn y drafodaeth ar effaith tymor hir ergydion i'r pen mewn chwaraeon."

Fe fyddai gwaith ymchwil o'r math yma yn "taflu goleuni newydd fydd yn gwella dealltwriaeth o'r cysylltiad rhwng pêl-droed ac afiechydon yr ymennydd", yn enwedig mewn merched.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, yr FA, ei fod yn croesawu'r holl ymchwil yn y pwnc yma, gan ddweud eu bod wedi "cymryd camau i adolygu newidiadau posib mewn hyfforddi penio ar bob lefel o'r gêm, ynghyd ag adnabod meysydd ymchwil newydd".

Bydd modd gweld mwy am waith ymchwil Prifysgol East Anglia a phrofiad Iwan Roberts ar raglen y Byd ar Bedwar ar S4C nos Fawrth am 21:30.