Diogelu plant: Llywodraeth yn cyfaddef bod 'rhaid gwneud mwy'

John OwenFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o adroddiad i droseddu Neil Foden wedi ei neilltuo i gymariaethau gyda'r pedoffeil John Owen [uchod]

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyfaddef bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "wneud mwy" i fonitro argymhellion adroddiad Clywch, 20 mlynedd ers cyhoeddi'r ymchwiliad i'r athro a phedoffeil John Owen.

Daw sylwadau Lynne Neagle wedi i adroddiad hynod feirniadol gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth ynghylch troseddau'r prifathro a phedoffeil Neil Foden, a amlygodd 52 cyfle a gafodd eu colli i atal ei droseddu.

Dywedodd Lynne Neagle bod y llywodraeth wedi gweithredu holl argymhellion Clywch, ond cyfaddefodd bod "angen gwneud mwy" i fonitro polisïau yn ymwneud â diogelu plant, wrth siarad â Newyddion S4C.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd wedi iddo gael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lynne Neagle fod angen i Lywodraeth Cymru "wneud mwy" i fonitro polisïau yn ymwneud â diogelu plant

Yn dilyn adolygiad o droseddu Foden, cafodd adroddiad 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder' ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae'n cynnwys atodiad sydd wedi ei neilltuo i gymariaethau rhwng troseddu Foden a John Owen yn Ysgol Rhydfelen.

Dywed yr adolygwyr ei fod yn "ddychrynllyd bod Argymhellion yr Adolygiad cyfredol hwn yn adlewyrchu'r rhai a welwyd yn Clywch, a'u bod mor debyg ac nad oes camau wedi'u cymryd i weithredu ar y materion allweddol na'u datrys 20 mlynedd yn ddiweddarach".

Neil FodenFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar 1 Gorffennaf 2024

Fe wnaeth yr awdur a'r dramodydd amlwg, John Owen, ladd ei hun tra'n wynebu achos llys am gam-drin plant yn rhywiol.

Dair blynedd wedi ei farwolaeth, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd adroddiad Clywch oedd yn ymchwilio i'w droseddau ac yn gwneud cyfres o argymhellion.

Gobaith Peter Clarke, y comisiynydd cyntaf, oedd y byddai'r argymhellion rheiny "yn gymorth i leihau'r risg i blant gael eu cam-drin yn y dyfodol".

20 mlynedd ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, mae mam i gyn-ddisgybl Ysgol Rhydfelen, lle'r oedd Owen yn dysgu, wedi dweud ei bod yn teimlo nad yw gwersi Clywch wedi eu dysgu.

Lynne Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lynne Phillips ei bod "methu credu'r peth" pan glywodd y newyddion am droseddau Neil Foden

Yn ei chyfweliad agored cyntaf ers cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Lynne Phillips, oedd yn ganolog i ymchwiliad Clywch, ei bod mewn anghrediniaeth.

"Mae Clywch yn meddwl listen... a dyw pobl heb wrando."

Dywedodd ei bod "methu credu'r peth" pan glywodd y newyddion am droseddau Neil Foden.

"Roeddwn i wedi bod drwy'r un peth 20 mlynedd yn ôl ac roedd e'n digwydd eto. Pam?"

Ychwanegodd Ms Phillips fod y ddau achos "yr un peth - roedd y ddau ddyn yn debyg iawn. Ro'n i'n gobsmacked, achos bod e mor debyg".

Nicholas Cooke
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicholas Cooke KC eisiau gwybod "oedd digon o fonitro, archwilio a diweddaru?"

Nicholas Cooke KC oedd cwnsler ymchwiliad Clywch.

Mae'r cyn-ddirprwy farnwr yn yr Uchel Lys yn galw am archwiliad i sicrhau nad yw adroddiad Clywch a'i argymhellion yn "casglu llwch".

"Mae hanes yn cadw ailadrodd," meddai.

"Mae ymchwiliadau yn cadw gwneud argymhellion, ond mae'r argymhellion rheiny ond mor effeithiol â chydwybod y rheiny ddylai dalu sylw iddyn nhw flynyddoedd wedyn."

"Beth hoffwn i wybod, a dwi'n meddwl fod gan y cyhoedd hawl i wybod, ar lefel genedlaethol - a oedd digon o fonitro, archwilio a diweddaru?"

'Atgyfnerthu ein gwaith'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod argymhellion Clywch wedi cael eu gweithredu.

"Fe gyflwynwyd polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol cyson i ddiogelu plant."

"Canfyddodd adolygiad 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder', er bod prosesau clir yn eu lle, gan gynnwys y rheiny gyflwynwyd ar ôl Clywch, bod methiant i'w gweithredu yn gywir.

"Byddwn yn atgyfnerthu ein gwaith ac yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod proses a gweithdrefnau yn cael eu dilyn yn gyson ac yn drylwyr."

"Bydd ein Hadolygiad Cryfhau Llywodraethu Diogelu yn sicrhau bod systemau llywodraethu diogelu yn parhau yn gadarn, yn wydn ac yn gwbl addas."