Y teulu sy' ddim yn gwario ceiniog yn Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mis llwm yw Ionawr i lawer gyda nifer ohonom yn wynebu biliau mawr am 'Ddolig drud.
Un sy'n delio gyda'r her mewn modd unigryw yw Claire Roach o Benarth sy' wedi bod yn peidio gwario o gwbl yn Ionawr ers 2016 er mwyn talu dyledion yr ŵyl.
"Dw i'n caru'r her," meddai Claire. "Mae'n ffordd wych o fynd nôl on track o ran arian.
"Ro'n i'n arfer mynd i ddyled chwerthinllyd yn Rhagfyr, ddim yn cynllunio fy ngwario ac yn rhoi popeth ar credit card.
"Ond dw i'n rhan o gymuned blogwyr arian ac ni'n rhoi awgrymiadau a tips i'n gilydd a chefais y syniad o beidio gwario o gwbl ym mis Ionawr er mwyn talu'r dyledion a phenderfynu roi cynnig arni."
Dyledion 'Dolig
Mae teuluoedd yn gwario dros £800 ar gyfartaledd yn fwy nag arfer ym mis Rhagfyr ac mae'n gallu cymryd misoedd i glirio'r ddyled.
Targed Claire, sy'n byw gyda'i phartner Luke a phump o blant, yw talu dyledion Nadolig erbyn 1 Chwefror. Mae hi'n anelu i arbed o leiaf £1000 eleni ond yn gobeithio cyrraedd £1500.
Dechreuodd hi beidio gwario yn Ionawr 2016 ond roedd y blynyddoedd cyntaf yn anodd ac ni lwyddodd Claire yn llwyr, gan wario ychydig ar y penwythnosau ar takeaways a treats. Ond erbyn hyn mae'r fam 38 mlwydd oed, sy'n rhedeg cwmni dylunio yn ogystal â blogio am gyllid personol, yn hen law ar yr her.
Yn Ionawr 2019 llwyddodd Claire i arbed £300 ar siopa bwyd, £200 ar betrol a thrafnidiaeth, £400 ar fwyta allan a tecawê, £100 ar arian poced a £300 ar ddillad ac anrhegion - cyfanswm o £1300.
Meddai Claire: "Dw i wedi methu o'r blaen ac wedi cael tecawê oherwydd nad oeddwn i wedi arfer gyda'r her. Doeddwn i ddim mor ymrwymedig ond wrth i amser fynd yn ei flaen dw i'n cynhyrfu mwy am y sialens ac yn edrych ymlaen ato. Nawr dw i'n cadw ato 100%.
"Gallwch gael targedau gwahanol. Mae rhai pobl yn peidio gwario un diwrnod allan o bob wythnos, mae rhai pobl yn gwneud wythnos allan o bob mis.
"Yn bersonol, Nadolig yw fy ngwariant mwyaf felly mae'n gweithio i fi i beidio gwario yn Ionawr."
Cynllunio a threfnu
Gyda phump o blant rhwng tair ac 20 mlwydd oed, mae'r her yn un sylweddol. Sut mae Claire yn mynd ati?
"Mae'n rhaid i chi fod yn drefnus ac mae'n medru bod yn anodd. Allen i ddim wneud hyn bob mis ond mae'n bosib ei wneud am fis ar y tro.
"Mae gen i spreadsheet a chynllun pryd bwyd. Dw i'n gwneud un siop bwyd mawr ar ddiwedd Rhagfyr ac mae'n rhaid i hwnnw wneud am y mis. A dw i'n gwneud y siop hynny o fewn cyllideb o tua £300 hefyd.
"Dw i'n creu cynllun am bob pryd bwyd am y mis ac yn gwneud sosban enfawr o gawl a chyri i rewi mewn batches.
"Dw i hefyd yn paratoi a rhewi ffrwythau a llysiau ffres."
Mae Claire yn parhau i dalu rhent a biliau gan fod hyn yn wariant hanfodol ond mae teithio hefyd yn gallu bod yn broblem: "O ran y car dw i'n gorfod dibynnu ar be' sy' ar ôl yn y tanc. Dw i'n cerdded y plant i bobman ac yn seiclo.
"Os yw'r petrol yn rhedeg allan, dw i ddim yn gallu defnyddio'r car felly mae rhaid cyfyngu teithiau car yn ofalus."
Cefnogaeth
Mae cefnogaeth y teulu a ffrindiau yn angenrheidiol, yn ôl Claire: "Erbyn hyn mae'r teulu cyfan yn cymryd rhan.
"Mae'n rhaid dweud wrth eich ffrindiau neu byddan nhw'n dylanwadu arno ti i wario. Er enghraifft, os yw hi'n ben-blwydd arnyn nhw, maen nhw'n perswadio ti i ddod am ddiod neu bwyd. Mae'n anodd dweud na wrth ffrindiau sy' wedi arfer â chi'n mynd am goffi neu ginio.
"Ond os ydyn nhw'n gwybod eich bod chi'n gwneud yr her, mae'n haws dweud na."
Mae'r teulu cyfan yn deall na fydd diwrnod allan na arian poced ym mis cynta'r flwyddyn ond erbyn Chwefror bydd pethau'n well arnynt yn ariannol.
Yr her pennaf
Meddai Claire: "I mi, mae Ionawr dim-gwario'n hawdd oherwydd 'mod i'n hoffi her ond cael pobl eraill i'w dderbyn yw'r her pennaf.
"Dw i wrth fy modd gyda sialens ac erbyn i Ionawr ddod i ben, dw i wedi adennill llawer o arian y byddwn i wedi'i wario ar ddillad a phethau felly. Drwy wneud yr her, dw i wedi sylweddoli 'mod i'n gwario gormod o arian nad oes angen i mi ei wario.
"Dw i'n safio ar gyfer Nadolig hefyd oherwydd mae gen i deulu mawr felly nid yw Ionawr dim-gwario yn talu am y cyfan ond, ar y cyd gydag arbed, erbyn diwedd mis Ionawr dw i wedi talu am Nadolig.
"Mae'n mynd yn dda eleni hyd yn hyn, mae'r plant yn caru'r her ac yn cymryd rhan yn llwyr ynddo.
"Ond erbyn diwedd y mis byddwn ni'n hapus i ddechrau gwario eto!"
Cyngor Claire
Gwnewch yn siŵr fod eich teulu'n rhan o'r her ac yn eich cefnogi.
Dywedwch ar gyfryngau cymdeithasol eich bod yn gwneud yr her fel fod pawb yn gwybod. Hanner yr amser dyw ffrindiau ddim yn gofyn i chi wneud pethau sy'n costio oherwydd eu bod nhw'n gwybod nad ydych chi'n gallu gwario.
Dechreuwch baratoi yn Rhagfyr. Byddwch yn drefnus gan gynllunio eich gwario mewn spreadsheet a chynllunio eich prydau bwyd am y mis. Mae Claire wedi rhannu gwybodaeth a spreadsheets am yr her ar ei blog ar Daily Deals UK, dolen allanol.
Hefyd o ddiddordeb