Athro Coran a throseddwr rhyw o Gaerdydd wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Mohammed Haji SadiqFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mohammed Haji Sadiq yn athro am 30 mlynedd

Mae athro Coran o Gaerdydd gafodd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant wedi marw yn y carchar, ddwy flynedd a hanner ers cael ei garcharu.

Cafodd Mohammed Haji Sadiq ei ganfod yn euog ym mis Gorffennaf 2017 o 14 cyhuddiad o ymosodiadau rhyw ar blant wrth iddo gynnal gwersi.

Bu farw Sadiq, 83, yng Ngharchar Parc, Pen-y-bont, ddydd Mercher.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal ddydd Gwener ym mosg Madina ar Ffordd Woodville, Caerdydd, ble wnaeth Sadiq gyflawni'r troseddau.

Mewn datganiad fe ddywedodd y mosg: "Rydym yn cydymdeimlo'n llwyr â'r dioddefwyr. Mae'r mosg yn fan addoli ar gyfer unrhyw Fwslim. Rydym yn cydymdeimlo â'r dioddefwyr a theulu'r dyn fu farw."

Dyn 'cyfrwys'

Cafodd Sadiq ei garcharu am 13 mlynedd yn wreiddiol, ond ym mis Rhagfyr 2017 cafodd y ddedfryd ei lleihau i naw mlynedd.

Clywodd y llys ei fod wedi cam-drin y plant os oedden nhw'n gwneud camgymeriad wrth ddarllen y Coran, a hynny dros gyfnod o ddegawd rhwng 1996 a 2006.

Cafodd ei ddisgrifio gan y barnwr Stephen Hopkins fel dyn "cyfrwys" oedd ag ochr "dywyll a gwyrdröedig".

Bu Sadiq yn dysgu yn y mosg am 30 mlynedd hyd nes 2006 pan gaeodd yr adeilad yn dilyn tân, a symudwyd y mosg i safle newydd ar Stryd Lucas.