Seiont Manor a Phlas Glynllifon yn nwylo'r derbynwyr

  • Cyhoeddwyd
Seiont Manor
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth gwesty Seiont Manor gau dros dro ddydd Sadwrn

Mae gwesty moethus Seiont Manor ger Caernarfon wedi mynd i ddwylo'r derbynwyr.

Daw'r newyddion yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau fod derbynwyr hefyd yn gyfrifol am Blas Glynllifon.

Dywedodd datganiad gan gwmni Duff and Phelps ddydd Gwener fod James Liddiment a Paul Greenhalgh wedi eu penodi fel derbynwyr dros asedau cwmnïau Plas Glynllifon Ltd a Rural Retreats & Development Ltd ar 17 Rhagfyr 2019.

Mae asedau'r ddau gwmni sydd yn nwylo'r derbynwyr fel rhan o'r pecyn hefyd cynnwys Gwesty Seiont Manor, Llanrug a Polvellan House yn nhref Looe, Cernyw.

Caiff derbynwyr eu penodi pan mae unigolyn sydd yn fenthycwr methu â chydymffurfio gyda thermau cytundeb benthyciad, sy'n golygu fod yr amser wedi dod i ad-dalu'r ddyled.

'Cynnal adolygiad'

Dywedodd y derbynwyr yn achos Plas Glynllifon a Gwesty Seiont Manor eu bod ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o werth asedau'r cwmnïau sydd yn eu gofal, cyn trafod ymhellach gydag unigolion sydd â buddiannau yn y cwmnïau.

Cafodd Plas Glynllifon, sydd wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd, ei brynu gan Paul a Rowena Williams yn 2016 gyda'r gobaith o droi'r plasty yn westy moethus.

Cafodd newidiadau eu gwneud i gwmni Plas Glynllifon Ltd y llynedd.

Fe gafodd cyfarwyddwr Seiont Manor, Myles Cunliffe ei benodi'n gyfarwyddwr tra bod Paul Williams wedi camu 'nôl o'r cwmni.

Ers hynny mae Mr Cunliffe wedi camu o'r neilltu fel cyfarwyddwr gwesty moethus Seiont Manor yn Llanrug.

Ffrae am newid enw

Roedd pryder y byddai cyn-berchnogion y plasty 102 ystafell wely, MBi Sales o Halifax, yn cefnu ar yr enw Plas Glynllifon, gan iddyn nhw geisio ei farchnata fel Wynnborn Mansion.

Fe wnaeth y cwmni dynnu'n ôl o'r fenter yn fuan wedi'r pryder yn dilyn "ymateb negyddol" i'w gynlluniau.

Fisoedd yn unig yn ddiweddarch roedd ymdrech arall i ailenwi'r safle - y tro yma yn Newborough Hall - cyn iddyn nhw wneud tro pedol ar eu cynlluniau.

Yn gynharach ym mis Ionawr, cyhoeddodd Seiont Manor eu bod wedi cau am y tro yn dilyn ffrae bod nifer o weithwyr yno ddim wedi derbyn eu cyflogau.