Canfod corff dyn mewn adeilad gwag yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Llangefni

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i gorff dyn gael ei ganfod mewn adeilad yn Llangefni.

Cafodd corff y dyn ei ganfod mewn adeilad gwag ar Stryd y Capel fore Gwener.

Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Richard Griffith ei fod yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld person yn mynd i mewn i'r adeilad yn yr wythnos ddiwethaf i gysylltu â'r llu.