Galw am wrthod cais dadleuol i gloddio am lo carreg
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni sy'n cloddio yn Glan Lash yn dweud mai dim ond 25% o'r glo fydd ar gael i'w losgi
Mae cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi annog Cyngor Sir Gâr i wrthod cais cynllunio dadleuol i gloddio am 110,000 o dunelli o lo carreg ar safle glo brig ger Llandybïe.
Dywedodd Haf Elgar wrth BBC Cymru ei bod hi'n "gwrthwynebu'r cais yn gryf".
Mae Cyfeillion y Ddaear yn dweud bod y cais gan Bryn Bach Coal Ltd yn mynd yn groes i bolisïau cynllunio Llywodraeth Cymru.
Mae'r cwmni'n dweud y bydd y gwaith ar safle Glan Lash yn creu 11 o swyddi dros gyfnod o ryw chwe blynedd a hanner.
Fe fydd tua 10 hectar o dir yn cael ei gloddio.

Byddai cymeradwyo'r cais yn "tanseilio'r ymrwymiad i'r argyfwng newid hinsawdd", medd Haf Elgar
Ym mis Chwefror 2019 fe bleidleisiodd cynghorwyr Sir Gâr yn unfrydol dros gyhoeddi "argyfwng newid hinsawdd", ac mae Ms Elgar wedi annog y cyngor i wrthod y cais oherwydd hyn.
"Blwyddyn 'nôl fe gyflwynwyd polisi cynllunio cenedlaethol newydd yng Nghymru oedd yn dweud yn glir na ddylid tynnu mwy o lo o dir Cymru," meddai.
"Ni mewn argyfwng hinsawdd a 'da ni methu fforddio tynnu mwy o lo o'r ddaear.
"Os fyddai Cyngor Sir Gâr yn mynd ati ac yn derbyn y cais, fe fyddai'n tanseilio ei ymrwymiad i'r argyfwng newid hinsawdd ac ymrwymiad Cymru i beidio llosgi rhagor o lo."

Mae Bryn Bach Coal wedi gwneud cais i gloddio am 110,000 o dunelli o lo carreg ar y safle
Mae Bryn Bach Glo yn honni mai dim ond 25% o'r glo fydd ar gael i'w losgi, gyda 75% yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau i buro dŵr ac ar gyfer y diwydiant gwneud brics.
Mae'r cais wedi cael cefnogaeth Cyngor Cymuned Llandybïe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2019