Cyhuddo Neil McEvoy o 'ymddygiad bygythiol' mewn gwrandawiad

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil McEvoy'n cynrychioli ward Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd ac yn Aelod Cynulliad annibynnol

Mae gwleidydd o Gaerdydd wedi wynebu honiad ei fod yn dangos "patrwm o ymddygiad" bygythiol pan nad yw'n cael ei ffordd ei hun.

Mae'r aelod o Gyngor Caerdydd a'r AC annibynnol Neil McEvoy yn wynebu honiadau ei fod wedi bwlio staff oedd yn gyfrifol am les plentyn oedd yn honni achos o ymosod.

Dywedodd Mr McEvoy fod yr honiad am ei ymddygiad yn dangos fod yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, oedd wedi ymchwilio i'w ymddygiad, yn "rhagfarnllyd".

Clywodd is-bwyllgor safonau a moeseg Cyngor Caerdydd, sy'n ymchwilio i honiadau bod y cyn-aelod o Blaid Cymru wedi torri cod ymddygiad y cyngor, fod Mr McEvoy wedi ei gyhuddo o ymddwyn mewn dull "bygythiol" tuag at staff cartref plant mewn gofal.

Roedd nifer fawr o gefnogwyr Mr McEvoy yn bresennol yn y gwrandawiad, a bu'n rhaid i gadeirydd y gwrandawiad, James Downe, alw ar bobl i dawelu wedi i sawl un yn y gynulleidfa weiddi ar gynrychiolydd yr ombwdsmon.

Galwad ffôn

Mae'r honiadau yn erbyn Mr McEvoy yn deillio'n ôl i alwad ffôn ganddo i gartref plant mewn gofal ym mis Ebrill 2018 wedi iddo glywed fod plentyn yno wedi honni ei fod wedi dioddef ymosodiad gan aelod o staff, ac ymdrech gan y cynghorydd i fynychu cyfarfod therapi y mis canlynol.

Mae'n dweud fod "honiadau ffug" wedi eu gwneud yn ei erbyn a bod tystion yn y gwrandawiad yn "annibynadwy".

Dywedodd Mr McEvoy ei fod yn gweithredu er lles y plentyn a'i rieni gan wneud hynny fel "rhiant corfforaethol".

Awgrymodd yr ombwdsmon fod Mr McEvoy wedi camddeall y diffiniad o riant corfforaethol, gan fod y term yn berthnasol i awdurdodau lleol ac nid i gynghorwyr.

Ym mis Mai 2018 aeth Mr McEvoy i gartref gofal preifat gyda thad plentyn oedd yn aros yno yn dilyn honiadau fod y plentyn wedi ei gam-drin yn gorfforol.

Cyfarfod

Clywodd yr is-bwyllgor fod staff yn y cartref plant wedi dweud wrth Mr McEvoy nad oedd yn cael mynychu'r cyfarfod gan nad oedd wedi ei awdurdodi i wneud hynny.

Fe honnir fod Mr McEvoy yna wedi ymddwyn mewn ffordd fygythiol tuag at y staff gyda'i "ysgwyddau'n ôl" gan "bwyntio ei fys".

Wedi iddo fethu a chael mynediad, fe wnaeth alwad ffôn i ddirprwy gyfarwyddwr gwasanaethau plant Cyngor Caerdydd a hynny o fewn clyw staff y cartref plant.

Dywedodd aelod o staff fod ei ymddygiad yn "fygythiol".

Mewn ymateb, dywedodd Mr McEvoy fod ei lais yn "bendant" yn hytrach na bygythiol a'i fod yn teimlo fod dan fygythiad o achos y ffordd yr oedd aelod o'r cartref gofal yn ymddwyn.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo ei fod ar fin dioddef ymosodiad a'i fod yn paratoi i ddefnyddio "symudiad judo" i amddiffyn ei hun.

Dywedodd Kathryn Shaw, ar ran yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus: "Yr hyn rwy'n awgrymu yw bod gennych chi batrwm o ymddygiad, cyn gynted â bod unrhyw beth yn mynd yn eich erbyn, fe wnaethoch chi ofyn i siarad gyda chyfarwyddwr."

'Rhagfarn'

Mewn ymateb, dywedodd Mr McEvoy "waw" - cyn ychwanegu: "Beth sydd gennym ni yma, allan o'ch ceg chi yw'r rhagfarn yr wyf i'n gorfod ymdopi ag o.

"Rydych chi'n dweud fy mod i'n arddangos patrwm o ymddygiad - dangoswch y patrwm yma o 'ymddygiad' os gwelwch chi'n dda."

Dywedodd ei fod yn rhesymol i wneud hynny "os bydde chi'n taro yn erbyn wal frics".

"Rwy'n credu fod hyn yn ymddygiad proffesiynol arferol," meddai.

Awgrymodd Ms Shaw ei fod am "wneud i bobl deimlo'n anghyfforddus" pan nad oedd yn cael ei ffordd ei hun, ac nad oedd yn dilyn y camau cywir.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.