AS Ceidwadol wedi 'camarwain y wasg' am ei gefndir busnes

  • Cyhoeddwyd
Jamie Wallis
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jamie Wallis gipio etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr oddi ar Lafur yn Rhagfyr

Fe ddylai aelod seneddol Ceidwadol newydd ymddiheuro am ei gysylltiad honedig gyda gwefan ddadleuol, yn ôl AS Llafur.

Dywedodd Tonia Antoniazzi fod Jamie Wallis, AS Pen-y-bont ar Ogwr wedi camarwain y wasg wedi iddo wadu ei gysylltiad gyda Sugar-Daddy.net.

Mae hynny'n "amlwg" yn cael ei wrth-ddweud gan gofnodion y cwmni, meddai Ms Antoniazzi, AS Llafur dros ardal Gŵyr.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Jamie Wallis, gafodd ei ethol yn AS ym mis Rhagfyr, am sylw.

Daw hyn wedi un o ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid Lafur, Jess Phillips, alw ar i Mr Wallis gael ei ddiarddel o'r blaid Geidwadol.

Roedd busnes Sugar-Daddy.net yn cynnig cyfle i bobl ifanc oedd angen arian i gwrdd ag unigolion cyfoethog.

Dywed y wefan: "Fe allwn eich cyflwyno i'ch sugar daddy personol er mwyn datrys eich problemau ariannol.

"Yn fachgen neu yn ferch, yn hoyw neu yn hetro, mae yna sugar daddy i chi."

Ymchwiliad

Fe wnaeth Ms Antoniazzi ei sylwadau yn Nhŷ'r Cyffredin yn dilyn ymchwiliad gan wefan BuzzFeed News i gefndir busnes Mr Wallis.

Dywedodd Mr Wallis wrth BuzzFeed: "Mae ymholiadau arlein yn awgrymu fod gwefan Sugar-Daddy.net wedi ei chofrestru yn 2004 ac fe ddaeth i ben ar weithredu yn 2010.

"Mae'n ymddangos fod cwmni o'r enw SD Billing Services Limited yn berchen ar ac yn gweithredu'r wefan.

"I osgoi unrhyw amheuaeth, nid wyf wedi cael unrhyw ddiddordeb ariannol na wedi bod yn gyfarwyddwr ar SD Billing services Limited ac felly ni allaf wneud sylw ar weithgareddau'r cwmni."

Tonia Antoniazzi
Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi hefyd yn galw ar y Ceidwadwyr i weithredu

Dywedodd Ms Antoniazzi fod y wefan yn "ddiraddiol" ac yn "ecsploetio" cwsmeriaid.

Ychwanegodd fod cofnodion Tŷ'r Cwmnïau yn "amlwg yn gwrthddweud y datganiad yma", a'i bod wedi derbyn gwybodaeth gan gyn-weithiwr oedd, meddai hi, yn tanseilio datganiad Mr Wallis.

Mae Mr Wallis wedi ei restru yn Nhŷ'r Cwmnïau fel unigolyn sydd gyda rheolaeth sylweddol o Fields Group Ltd.

Fields Group Ltd oedd unig gyfranddaliwr SD Billing Services rhwng Hydref 2007 a Hydref 2010 - ac yn ystod y cyfnod yma roedd Mr Wallis yn gyfarwyddwr a chyfranddaliwr ar Fields Group.

'Dros 800 o gwynion'

Fe adroddodd BuzzFeed News fod deg o gwmnïau lle'r oedd Mr Wallis yn gyfarwyddwr neu'n gyn-gyfarwyddwr yn destun dros 800 o gwynion i'r adran safonau masnach rhwng Ionawr 2007 a Chwefror 2017, yn ôl Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywed y cyngor fod y cwmnïau wedi bod yn destun ar 20 ymweliad gorfodaeth.

Fe ddywedodd Mr Wallis wrth BuzzFeed mai "nonsens" oedd y ffigyrau a'i fod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr fod yr awdurdod wedi derbyn "llythyr cyn cam cyfreithiol" gan Fields Group Limited ond nid oedd modd gwneud unrhyw sylw pellach o achos y "posibilrwydd o anghydfod cyfreithiol".