Cyngor Tref Caernarfon yn bwriadu codi ffioedd parcio

  • Cyhoeddwyd
CaernarfonFfynhonnell y llun, Google

Mae busnesau yng Nghaernarfon wedi beirniadu cynllun i godi ffioedd parcio, gan ddweud y gallai olygu bydd llai o bobl yn dod i siopau'r dref.

Mae Cyngor Tref Caernarfon eisiau'r hawl i godi'r ffioedd 10% er mwyn cynhyrchu incwm ychwanegol o tua £46,000 y flwyddyn i'w wario yn y dref.

Mae'r cyngor wedi gofyn i Gyngor Gwynedd, sy'n gyfrifol am y mwyafrif o'r meysydd parcio, am ganiatâd i godi prisiau.

Mae pum cymuned arall yn y sir eisoes wedi cael yr hawl.

Yn ôl y Cynghorydd Cai Larsen o Gyngor Tref Caernarfon, mae'r cyngor tref eisoes wedi gorfod ysgwyddo'r baich o gynnal rhai gwasanaethau sydd wedi cael eu torri gan Gyngor Gwynedd.

"Mae 'na nifer o bethau sydd wirioneddol angen eu gwneud yng Nghaernarfon, a 'da ni'n gweld hyn fel cyfle i ariannu hynny," meddai.

'Hollol hurt'

Ond mae rhai'n poeni am yr effaith y gallai codi prisiau gael ar fusnesau.

Dywedodd Jason Parry - aelod o'r cyngor tref, sy'n rhedeg busnes barbwr - fod gan y cyngor ddigon o arian wrth gefn beth bynnag.

"Mae o'n syniad hollol hurt, yn enwedig o gofio fod y ffordd osgoi ar y ffordd, a 'da ni ddim yn gwybod pa effaith geith hynny ar y dref," meddai.

"'Da ni eisiau denu pobl yma, ddim gyrru nhw o 'ma."

WrecsamFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Canol tref Wrecsam, lle mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynllun parcio'n rhannol am ddim

Ddydd Mawrth cyhoeddodd Cyngor Wrecsam gynllun arbrofol i gynnig parcio am ddim yn y prynhawniau i geisio denu mwy o bobl i ganol y dref.

Mae'r cigydd Wil Owen, eisiau gweld cynllun tebyg yng Nghaernarfon, yn hytrach na chodi prisiau.

"Os neith hynny ddigwydd, waeth i mi roi'r goriad yn y drws," meddai.

"Mae hi ddigon tawel fel mae hi, ac os eith prisiau i fyny, mi fydd yr archfarchnadoedd wrth eu bodd."