Hart yn addo 'swm sylweddol' o arian i Gymru wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n derbyn "swm sylweddol o arian" trwy gronfa newydd a fydd yn cymryd lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, mae ysgrifennydd newydd Cymru wedi addo.
Dywedodd Simon Hart y bydd y Gronfa Ffyniant yn sicrhau y bydd yr arian yn cyrraedd ardaloedd lle mae ei "angen fwyaf".
Bwriad y gronfa newydd yw lleihau anghydraddoldeb ar draws pedair gwlad y DU, yn ôl y llywodraeth Geidwadol.
Dywedodd Mr Hart y bydd manylion yn cael eu rhyddhau yn fuan ar sut y bydd Cronfeydd Strwythurol yr UE yn cael eu disodli, gan ei ddisgrifio fel "stori newyddion da".
Pwy fydd yn rheoli'r arian?
Mae cronfeydd ariannol yr UE wedi dosbarthu £5bn i Gymru ers 2000.
Wrth ateb cwestiynau ar lawr Tŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf fel Ysgrifennydd Cymru, dywedodd wrth Aelodau Seneddol: "Am y tro cyntaf mewn 45 mlynedd, mae swm sylweddol o arian yn mynd i gael ei ddosbarthu yng Nghymru gan wleidyddion Cymru, sy'n uniongyrchol atebol i bleidleiswyr Cymru.
"Nid yw hynny wedi bod yn wir ers cryn amser."
Dywedodd Mr Hart hefyd na fydd y cynigion newydd yn "gyrru cart a cheffyl trwy'r setliad datganoli".
Ond fe fethodd ag egluro a fydd Llywodraeth Cymru yn rheoli'r gronfa newydd.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud na allai Llywodraeth y DU fod yn "farnwr, rheithgor a llys apêl" ar benderfyniadau ar daliadau ariannol.
Dadansoddiad Gareth Pennant, gohebydd gwleidyddol
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf Simon Hart yng Nghwestiynau Cymru ers cael ei benodi'n ysgrifennydd gwladol fis diwethaf.
Cafodd cwestiynau ar y Gronfa Ffyniant a Rennir, bargeinion twf a'r diwydiant dur y prif sylw yn ystod y sesiwn.
Fe ganmolodd ei ragflaenydd Alun Cairns, gan ddweud iddo wneud "gwaith gwych" i Gymru, ac am ei egni "diderfyn".
Hwn oedd y tro cyntaf i Mr Cairns siarad yn y tŷ ers iddo ddychwelyd i'r meinciau cefn yn dilyn ei ymddiswyddiad ym mis Tachwedd.
Gwnaeth David TC Davies ei ymddangosiad cyntaf fel gweinidog yn Swyddfa Cymru - dyrchafiad "hir-ddisgwyliedig", yn ôl AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds.
Ac mewn digwyddiad anghyffredin, canodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan ar ôl i'r gân gyrraedd rhif un yn siart iTunes UK.
Cafodd ei llongyfarch gan Mr Davies, aeth yn ei flaen i egluro bod un arall o ganeuon Dafydd Iwan, 'I'r Gad', yn "dod i'r meddwl" wrth ystyried cefnogaeth y llywodraeth i fargeinion twf yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019