Cwmni cychod yn dod i ben yn sgil cynlluniau adnewyddu
- Cyhoeddwyd
Bydd llai o dripiau cwch dros Draphont Pontcysyllte o hyn ymlaen wedi i gwmni lleol ddod i ben.
Roedd Jones the Boats yn cynnig teithiau amrywiol ar y gamlas ger Wrecsam.
Ond wrth i'r awdurdodau ystyried cynlluniau i adnewyddu'r safle, mae'r cychwr wedi penderfynu ymddeol.
Mae nifer yr ymwelwyr bedair gwaith yn uwch nag yr oedd yn 2009, pan gafodd y draphont ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Ymhlith y newidiadau posib i'r cyfleusterau ym Masn Trefor, ar ochr orllewinol y draphont, mae canolfan newydd i ymwelwyr.
Mae newidiadau i'r drefn parcio, mwy o lwybrau beicio a cherdded a llwybr ar hyd y coed hefyd dan ystyriaeth.
Ond fydd cwmni Jones the Boats, sydd wedi bod yn mynd â phobl ar draws y draphont ers bron i 20 mlynedd, ddim yn dyst i'r newidiadau.
'Cynlluniau mawr'
"Daeth hi'n amlwg i mi fod 'na gynlluniau mawr i'r ardal yma, ac roedd fy les i'n dod i ben fis Mawrth, felly fe benderfynwyd y byddan ni'n rhoi'r gorau i'r les ac y byddai'r busnes yn dod i ben," meddai'r perchennog, Peter Jones.
Dywedodd y byddai wedi hoffi parhau â'r busnes a'i drosglwyddo i'w fab.
"Fe gawson ni drafodaeth gyda Glandŵr Cymru ac ystyried y posibiliadau, ond roedden nhw mewn gwirionedd yn ymddangos yn amhosibl," meddai.
Mae'n golygu bod dau gwch y cwmni - Eirlys a Tommy - ar werth.
Fel tywysydd i ymwelwyr, bu Roberta Roberts yn defnyddio gwasanaethau Jones the Boats yn gyson, a dywedodd y bydd "colled" ar ei ôl.
Ond ychwanegodd bod angen mwy o gyfleusterau i ymwelwyr o gwmpas y draphont.
Ategu hynny mae Lynda Slater, sy'n rheoli'r safle.
"Mae nifer yr ymwelwyr bedair gwaith yn fwy na degawd yn ôl, pan ddaethon ni'n Safle Treftadaeth y Byd," meddai.
"Felly mae'n rhaid cynyddu beth sydd yma i groesawu'r ymwelwyr."
Dywedodd bod gwelliannau i'r drefn parcio ac i'r llwybrau wrthi'n cael eu gwneud, ond mai drafft yn unig ydy'r cynlluniau ehangach i drawsnewid Basn Trefor.
Ychwanegodd y bydd tripiau dros y draphont dal ar gael, er bod Jones the Boats yn rhoi'r gorau iddi.
"Rydyn ni'n diolch i Peter am wasanaeth am bron i ddau ddegawd ac yn dymuno ymddeoliad hapus iawn iddo," meddai Ms Slater.
"Ond bydd yr un gwasanaethau ar gael - cychod i'w llogi a chychod efo teithiau dros y draphont - a bydd pethau'r un fath i ymwelwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd1 Awst 2017