Sut i fod yn fwy positif o ddydd i ddydd

  • Cyhoeddwyd

Mae mis Ionawr yn amser perffaith i rai sy'n gwneud addunedau, efallai i geisio colli pwysau neu i fyw yn iachach am y flwyddyn i ddod. Ond mae'n gallu bod yn anodd i gadw'n positif a pheidio rhoi'r gorau iddi.

Yma, mae'r seicolegydd Dr Ioan Rees, sy'n adnabyddus am gynghori yr arweinwyr colli pwysau ar y gyfres FFIT Cymru ar S4C, i roi cyngor am sut i fod yn fwy positif o ddydd i ddydd.

Disgrifiad,

Cyngor gan Dr Ioan o Ffit Cymru

5 Tip Positifrwydd

1. Cymryd y cam cyntaf

Mae pob un ohonon ni ofn cymryd y cam cyntaf oherwydd ein bod ni'n ofni methu. Felly'r cyngor yw cymerwch y cam cyntaf, y cam anoddaf un. Wynebwch eich ofn.

2. Blaenoriaethu

Gofynnwch beth sy'n bwysig i chi? Yna, rhaid blaenoriaethu y pethau yna. Esgusodion yw popeth arall. Esgus yw'r celwydd rydych chi'n ei ddweud wrthych eich hunain er mwyn gwneud eich hun deimlo'n well am beidio gwneud y pethau hynny sy'n bwysig i chi.

3. Ymddaliad positif

Mae'r ffordd ry'n ni'n dal ein corff, ein hysgwyddau, ein pen, y cyswllt llygaid a sut ry'n ni'n defnyddio cyhyrau'r wyneb i gyd yn effeithio ar sut ry'n ni'n teimlo a sut ry'n ni'n ymddwyn. Mae hynny, yn ei dro, yn effeithio ar sut mae eraill yn deall a dehongli a'n gweld ni.

Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n defnyddio ein corff er mwyn creu teimlad o bositifrwydd. Trwy hyn, bydd eraill yn gallu gweld y da ynom ni hefyd.

4. Llwyddo a dysgu

Does dim y fath beth â methiant, dim ond y gallu i lwyddo neu ddysgu. Os dydyn ni ddim yn llwyddo yn rhywbeth, er enghraifft ddim yn cael y swydd 'na, neu ddim yn cerdded milltir y diwrnod, peidiwch â bod yn grac a cholli eich tymer neu ddigalonni. Codwch eich hunain lan a gyda mwy o egni yn eich bol ystyriwch "beth alla' i wneud yn wahanol a'i ddysgu?'

Yna gallwch fynd yn eich hôl a rhoi cynnig arall arni.

5. Sylwi ar y pethau positif

Rydyn ni naill ai'n gallu sylwi ar bethau negyddol neu ar bethau positif. Dw i'n awgrymu ein bod ni'n edrych ar y pethau positif. Dechreuwch drwy edrych ar bobl eraill mewn golau positif. Sylwch arnyn nhw a gadael iddyn nhw wybod. Nid yn unig y byddwch chi'n teimlo'n well o fod wedi eu canmol nhw neu ddiolch iddyn nhw, ond fe fyddan nhw'n teimlo'n well hefyd.

Hefyd, cymerwch ennyd yn y dydd i sylwi ar brydferthwch bywyd o'n hamgylch ni: rydyn ni'n fyw, yn byw bywyd, a gwerthfawrogwch y foment honno.

Wedi eich ysbrydoli gan gyngor Dr Ioan Rees? Mae cyfres newydd o FFIT Cymru yn dychwelyd yn 2020 ac mae'r cynhyrchwyr yn chwilio am arweinwyr newydd i gymryd rhan, ar hyn o bryd.

Hefyd o ddiddordeb: