Rhybudd am fegera trwy dwyll yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Aberystwyth wedi rhybuddio'r gymuned am griw o bobl sydd yn teithio i'r ardal i fegera trwy dwyll.
Dywed swyddogion fod nifer o drigolion ac ymwelwyr i'r dref wedi cyfrannu arian gan gredu fod aelodau'r giang mewn gwir angen.
Dywedodd PC Phil Woodland: "Rwy'n falch o weithio mewn tref ble mae pobl am helpu ei gilydd, ond yn yr achos yma, mae caredigrwydd yn cael ei ecsbloetio.
"Rydym wedi ceisio gweithio gyda'r grŵp i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei angen, a drwy hyn mae wedi dod yn amlwg nad ydyn nhw'n wirioneddol ddigartref.
"Rydym yn defnyddio grymoedd cyfreithiol pan mae'n bosib ac angenrheidiol i ddelio gyda hyn."
'Twyllo pobl'
Ychwanegodd PC Woodland: "Mae rhoi arian i rywun sy'n begera'n ddewis personol, ond yn yr achos yma, mae'r gymuned yn cael ei chamarwain.
"Ar ddiwedd y dydd, mae'r bobl hyn yn dychwelyd i'w cartrefi - maen nhw'n sylfaenol yn twyllo pobl."
Mae'r rhai sy'n gyfrifol yn cael eu disgrifio fel pobl o dras Romanaidd, rhwng 30 a 50 oed.
Maen nhw'n ymweld ag Aberystwyth ar y trên neu ar fws cyn dychwelyd i Gaerdydd ar ddiwedd y dydd.
Mae'r tîm plismona lleol yn cadw llygad ar y sefyllfa ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu arlein drwy ddefnyddio'r ddolen yma, dolen allanol, drwy ebostio contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk neu ffonio 101.