Gyrrwr mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ble cafodd dyn anafiadau difrifol.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Blanche yn ardal Waunadda y ddinas am 17:00 ddydd Gwener, pan darodd car Toyota MPV yn erbyn cerbyd arall a thŷ.
Cafodd gyrrwr y Toyota ei gludo mewn ambiwlans i'r ysbyty ac fe ddywedodd yr heddlu ei fod mewn cyflwr difrifol.
Mae'r stryd bellach wedi ei hailagor ar ôl bod ar gau am gyfnod, ond dywedodd y llu eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw dystion a welodd y digwyddiad neu a gynorthwyodd yn dilyn y gwrthdrawiad.