Teulu Conner Marshall 'i barhau â'r frwydr am newid'
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni bachgen gafodd ei ladd gan droseddwr wedi dweud y byddan nhw'n parhau â'u brwydr i "stopio pethau fel hyn rhag digwydd".
Cafodd David Braddon ei garcharu am oes ar ôl curo Conner Marshall, 18, i farwolaeth ym mharc carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl yn 2015.
Yn y cwest i farwolaeth Mr Marshall roedd y crwner yn feirniadol o'r oruchwyliaeth "annigonol" a roddwyd i'r gweithiwr achos oedd yn gyfrifol am Braddon.
Roedd Braddon, 26, dan oruchwyliaeth am droseddau cyffuriau ac ymosod ar swyddog heddlu pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
'Rhaid cael newid'
Dywedodd y crwner fod y gweithiwr achos, Kathryn Oakley, "wedi ei llorio gan ei hachosion a llwyth gwaith" yn ystod ei chyfnod yn goruchwylio Braddon.
Ond ychwanegodd nad oedd "modd rhagweld na darogan, heb sôn am atal, y farwolaeth".
Wrth siarad ar BBC Radio Wales ddydd Sadwrn dywedodd mam Conner, Nadine Marshall nad oedd brwydr y teulu ar ben yn dilyn canlyniad y cwest.
"Mae'n ddyletswydd arnom ni, mae gennym ni hawl i fod eisiau parhau i weiddi a dyna beth wnawn ni," meddai.
Ychwanegodd ei gŵr Richard: "Os ydyn ni'n llwyddo i newid un peth, os allwn ni achub un teulu rhag mynd drwy beth rydyn ni wedi mynd drwyddo wedyn bydd y frwydr werth e.
"Mae'n rhaid cael newidiadau i atal pethau fel hyn rhag digwydd."
Wrth ymateb i ganlyniad y cwest dywedodd Ian Barrow, cyfarwyddwr Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru: "Roedd hon yn drosedd erchyll ac rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Conner Marshall.
"Tra bod y crwner wedi canfod nad oedd modd osgoi marwolaeth Conner, does dim dwywaith nad oedd goruchwyliaeth prawf David Braddon yn ddigon da.
"Rydym nawr wedi cymryd y cyfrifoldeb o reoli'r holl droseddwyr sydd wedi eu rhyddhau ar drwydded oddi wrth Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ac mae 800 o swyddogion prawf ychwanegol yn derbyn hyfforddiant ar draws Cymru a Lloegr fydd o gymorth i wella diogelwch cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020