Cwest Conner Marshall: Goruchwyliaeth 'annigonol' o lofrudd
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi beirniadu'r gwasanaeth prawf yn achos dyn 18 oed gafodd ei lofruddio gan ddyn oedd ar orchymyn cymunedol ar y pryd.
Cafodd rheithfarn naratif ei chofnodi yng nghwest Conner Marshall, a dywedodd y crwner iddo gael ei ladd yn anghyfreithlon.
Roedd Mr Marshall ym mharc carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl yn 2015 pan gafodd ei guro i farwolaeth gan David Braddon.
Roedd Braddon, 26, wedi troseddu sawl gwaith yn y gorffennol.
Roedd yn destun dau orchymyn cymunedol ar y pryd, a hynny am ymosod ar heddwas a bod â chyffuriau yn ei feddiant.
Mae Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru wedi cydnabod nad oedd goruchwyliaeth prawf David Braddon yn ddigon da.
Dywedodd y crwner cynorthwyol bod gan y swyddog prawf oedd yn gyfrifol am gadw golwg ar Braddon "reolwyr tîm gwan" ac roedd y ffordd y cafodd hi ei goruchwylio gan ei rheolwyr yn "druenus o annigonol".
Methu 'atal y farwolaeth'
Dylai Kathryn Oakley, a ddechreuodd yn ei gwaith ym mis Ionawr 2014, fod wedi cael ei goruchwylio "unwaith bob 6-8 wythnos" gan reolwr tîm, meddai Nadim Bashir.
"Roedd ganddi reolwyr tîm gwan a doedd gan yr un rheolwr drosolwg o'i llwyth gwaith," meddai.
"Roedd y ffordd y cafodd ei rheoli a'i goruchwylio yn druenus o annigonol."
Fe wrthododd y crwner dystiolaeth nifer o uwch swyddogion y gwasanaeth prawf, gan gynnwys y prif weithredwr cynorthwyol, Diana Binding.
Dywedodd hefyd nad oedd tystiolaeth rheolwyr yn cyd-fynd gyda'r hyn roedd Ms Oakley wedi'i ddweud ac fe wrthododd y dystiolaeth yna hefyd.
Ychwanegodd: "Roedd Kathryn Oakley wedi ei llorio gan ei hachosion a llwyth gwaith ac mae'n derbyn ar sawl achlysur y gallai fod wedi gwneud mwy i oruchwylio David Braddon."
Ond ychwanegodd nad oedd "modd rhagweld na darogan, heb sôn am atal, y farwolaeth".
Beth ddigwyddodd yn 2015?
Roedd Braddon yn aros yn y maes carafannau ym mis Mawrth 2015 gyda'i gyn-bartner a'i blant pan fu ffrae am gyn-gariad.
Cymerodd gyllell o'r gegin gan ddweud ei fod am fynd i chwilio am gyn-gariad ei hen gymar a'i ladd.
Fe gamgymrodd Mr Marshall am y cyn-gariad, ac ymosod arno'n giaidd.
Cafodd Braddon ei ddedfrydu i garchar am oes ym mis Mehefin 2015.
Dywedodd Nadine Marshall, mam Conner, fod y casgliadau gan y crwner yn "benllanw pum mlynedd o frwydro" er mwyn cael cyfiawnder i'w mab.
"Mae datganiadau'r crwner yn dangos beth yr ydym wedi gwybod am sbel," meddai.
"Nid oedd rheolaeth David Braddon yn ddigon cryf a chadarn o ganlyniad i'r strwythur rheoli gan y CRC a'r preifateiddio i'r gwasanaeth prawf yng Nghymru.
"Mae'r crwner wedi datgan saith o fethiannau mawr.
"Pe bai'r methiannau heb ddigwydd ni fyddwn byth yn gwybod os fyddai Conner dal i fod gyda ni heddiw."
Mae'r undeb sydd yn cynrychioli swyddogion prawf wedi dweud ar ôl y cwest bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" ynglŷn â'r cwmni sydd yn gyfrifol am y gwasanaethau prawf yng Nghymru.
Dywedodd Napo bod gweithwyr wedi cwyno am y llwyth gwaith, oedd yn waeth am fod 40% o'r staff wedi colli eu gwaith, ar ôl i Working Links gymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau.
Yn ôl yr ysgrifennydd cyffredinol, Ian Lawrence mae aelodau yn cael eu gwneud yn "fwch dihangol gan reolwyr… pan mae troseddu difrifol yn digwydd".
Ychwanegodd bod yr undeb wedi rhybuddio gweinidogion cyn i Working Links ddod i ben bod y cytundeb yn "methu ar bob lefel".
Hyfforddi 800 o swyddogion prawf
Wrth ymateb i ganlyniad y cwest, dywedodd Ian Barrow, cyfarwyddwr Gwasanaeth prawf Cenedlaethol Cymru: "Roedd hon yn drosedd erchyll ac rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Conner Marshall.
"Tra bod y crwner wedi canfod nad oedd modd osgoi marwolaeth Conner, does dim dwywaith nad oedd goruchwyliaeth prawf David Braddon yn ddigon da.
"Rydym nawr wedi cymryd y cyfrifoldeb o reoli'r holl droseddwyr sydd wedi eu rhyddhau ar drwydded oddi wrth Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ac mae 800 o swyddogion prawf ychwanegol yn derbyn hyfforddiant ar draws Cymru a Lloegr fydd o gymorth i wella diogelwch cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020