'Llai o arian i wasanaethau ieuenctid,' medd elusen YMCA
- Cyhoeddwyd
Bydd yna "genhedlaeth o bobol ifanc yn unig, ar goll, a heb unrhyw le i droi am gymorth, oherwydd toriadau gwariant cynghorau lleol" - dyna rybudd elusen yr YMCA sy'n dweud bod angen buddsoddi er mwyn atal pethau fel troseddau cyllyll a phroblemau iechyd meddwl.
Yn ôl ffigyrau'r elusen, mae'r arian sy'n cael ei wario gan gynghorau Cymru ar wasanaethau i bobl ifanc - cyllid nad sy'n cynnwys addysg - wedi gostwng 38% mewn degawd.
Yn 2010/11, roedd y swm, medd yr YMCA, yn £50m ond yn 2018/19 roedd wedi gostwng i £31m.
Ymhlith y gwasanaethau sydd wedi derbyn llai o arian mae clybiau ieuenctid, gwasanaethau sy'n cefnogi mamau ifanc, a gwasanaethau rhoi cymorth i bobl ifanc sy'n defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Mae'r YMCA yn rhybuddio am effaith y toriadau yn y canolbarth yn benodol, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid cynghorau er mwyn ceisio atal problemau.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ymateb.
"Edrych y tu hwnt i'r cyngor am arian"
Dydy'r ffigurau ddim yn cynnwys Ynys Môn, gan nad ydy'r cyngor wedi cyhoeddi'u ffigyrau ers sawl blwyddyn.
Cyngor Caerdydd sydd wedi gweld y toriadau mwyaf - 64 %.
Dywedodd Andrew Templeton, prif weithredwr YMCA Caerdydd bod y "toriadau wedi cael effaith enfawr - ry'n ni wedi gweld effaith fawr yn y ddinas.
"Os oes dim llefydd fel yma lle mae pobl ifanc yn gallu mynd - mae mwy o bobl ifanc allan ar y stryd.
"Gan nad oes gwasanaethau effeithiol yn y brifddinas - does dim gweithwyr profiadol chwaith a dyw'r cymorth na'r support ddim yn digwydd. Ry'n ni wedi gorfod edrych y tu hwnt i'r cyngor am arian - trin y lle fel model busnes."
"Heb unman i droi"
Dywedodd Denise Hatton, Prif Weithredwr YMCA Cymru a Lloegr: "Mae gwasanaethau ieuenctid yn bodoli er mwyn darparu ymdeimlad o berthyn a rhoi cyfle i bobl ifanc bregus fwynhau eu hieuenctid.
"Ond ers degawd oherwydd pwysau ariannol mae awdurdodau lleol wedi bod yn rhoi llai o arian i wasanaethau ieuenctid.
"Heb weithredu llym i ddiogelu cyllid a buddsoddi eto yng ngwasanaethau ieuenctid ry'n yn gorfodi ein pobl ifanc i fod yn genhedlaeth unig a choll heb unman i droi."
Yn aml, medd yr elusen, dyw'r cyhoedd ddim yn ymwybodol o'r effaith ond mae achosion o droseddu â chyllyll, problemau iechyd meddwl ac unigrwydd ymhlith pobl ifanc ar gynnydd tra bod y gwasanaethau sy'n atal materion o'r fath ar drai.
Yng Nghymru mae'r YMCA yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi lle amlwg i sefydliadau'r drydedd sector sy'n darparu gwasnaethau ieuenctid, ac i sicrhau bod cynghorau lleol yn cael cyllid digonol i gefnogi gwasanaethau ieuenctid yn y gymuned.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018