Tân Ffair-rhos: Teulu'n diolch i'r cyhoedd am gefnogaeth
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen fu farw yn dilyn tân mewn carafán yng Ngheredigion wedi diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth.
Cafodd yr heddlu eu galw am 05:35 fore Sul yn dweud fod tân mewn carafán yn Ffair-rhos, ger Pontrhydfendigaid.
Bu farw Zac, tair oed, yn y tân ac fe gafodd ei dad, Shaun Harvey, a'i frawd pedair oed, Harley, eu cludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar ôl cael "llosgiadau difrifol".
Mae'r heddlu'n dweud nad ydyn nhw'n trin y digwyddiad fel un amheus.
'Geiriau caredig'
Mewn datganiad brynhawn dydd Llun, dywedodd y teulu: "Fe hoffem ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth.
"Rydym yn diolch i chi am barchu ein preifatrwydd i'r dyfodol tra rydym yn galaru colli Zac ac yn canolbwyntio ar ein mab Harley sydd yn parhau i fod yn ddifrifol wael."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mewn datganiad: "Mae ymchwiliwyr heddlu a thân yn parhau i archwilio'r safle ond dyw'r amgylchiadau ddim yn cael eu trin fel rhai amheus ar hyn o bryd.
"Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi'r teulu ar y cyfnod trawmatig hwn."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion bod ei "gydymdeimlad dwys gyda'r teulu yn dilyn y digwyddiad trasig yn Ffair-rhos", a bod swyddogion yn "gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys ac yn rhoi cymorth i'r teulu a'r ysgol ar yr adeg anodd yma".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020