Ross England: Ceidwadwyr 'rhwng dwy stôl'
- Cyhoeddwyd
Mae'r diffyg penderfyniad dros ddyfodol Ross England fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholiadau'r Cynulliad wedi gadael y blaid "rhwng dwy stôl" yn lleol, meddai dirprwy gadeirydd y blaid.
Dywed Russell Spencer-Downe o Gymdeithas Ceidwadwyr Bro Morgannwg ei fod wedi gobeithio y byddai bwrdd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud penderfyniad sydyn, ond hyd yn hyn doedd "dim symudiad" wedi bod ar y mater.
Cafodd Mr England ei wahardd fel ymgeisydd 12 wythnos yn ôl yn dilyn y newyddion fod ei ymddygiad fel tyst wedi golygu fod achos llys wedi dymchwel.
Ymchwiliad
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y bydd eu hymchwiliad "yn dod i ben yn fuan iawn".
Dywedodd Mr Spencer-Downe wrth BBC Cymru: "Peidio gwybod sy'n anodd. Roeddem wedi gobeithio y byddai'r bwrdd wedi gwneud penderfyniad sydyn ar hyn. Rwy'n credu y gallen nhw fod wedi delio ag o.
"Rydym rhwng dwy stôl lle nad ydym yn gallu hyrwyddo ymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad achos nid ydym yn gwybod os ydym yn cadw'r ymgeisydd gwreiddiol neu'n chwilio i ailddewis.
"Bod rhwng dwy stôl sydd yn anodd iawn."
'Diffyg cyfathrebu'
Dywed Mr Spencer-Downe hefyd nad oedd Cymdeithas y Ceidwadwyr yn lleol wedi cael clywed am waharddiad Mr England cyn i'r newyddion gael ei rannu yn gyhoeddus.
"Roeddwn i wedi fy siomi gyda'r cyfathrebu," meddai. "Daeth y gymdeithas i glywed am y newyddion dim ond ar ôl i aelod ddarllen ar Twitter fod ein hymgeisydd wedi ei wahardd yn y lle cyntaf."
Dywedodd cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig Byron Davies: "Mae Ross England yn parhau i fod wedi ei wahardd o'r blaid ac felly hefyd fel ymgeisydd, tra bod ein hymchwiliad manwl yn parhau.
"Fe fydd yn dod i ben yn fuan iawn."
Mae sedd Bro Morgannwg yn un o brif dargedau'r Ceidwadwyr yn etholiad nesaf y Cynulliad, fydd yn cael ei chynnal ym mis Mai 2021.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019