Gwahardd rhieni rhag taro plant gam yn nes
- Cyhoeddwyd
Mae gwaharddiad ar rieni rhag taro eu plant wedi dod gam yn nes yn dilyn nifer o bleidleisiau yn y Senedd gan aelodau'r Cynulliad.
Mae disgwyl y bydd cam olaf y broses yn cael ei gwblhau'r wythnos nesaf pan fydd y mater yn cael ei drafod gan aelodau am y tro olaf.
Fe wrthododd ACau gefnogi gwelliannau gan y Ceidwadwyr fyddai wedi gorfodi'r llywodraeth i ddarparu mwy o wybodaeth am sut y byddai'r gwaharddiad yn cael ei weithredu.
Ymgyrch gyhoeddusrwydd
Dywed gweinidogion y llywodraeth eu bod wedi eu hymrwymo i gefnogi ymgyrch gyhoeddusrwydd am y newid arfaethedig yn y gyfraith.
Mae disgwyl y bydd y Mesur Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol yn cael ei gefnogi gan fwyafrif o ACau gyda chefnogaeth yr aelodau Llafur a Phlaid Cymru, ac fe fydd y mesur yn dod i rym yn swyddogol yn 2022.
Roedd y Ceidwadwyr am orfodi'r llywodraeth i gynghori pobl ar sut i adrodd eu pryderon am gosbi plant yn gorfforol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan nad oedd y mesur "yn gwneud unrhyw synnwyr" gan nad oedd yn creu troseddau newydd.
Amddiffyniad
Ond fe fyddai yn cael gwared ar yr amddiffyniad o ddefnyddio cosb gorfforol "rhesymol" mewn achosion o ymosodiadau.
Ar sail effaith gwaharddiad yn erbyn taro plant yn Seland Newydd, mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y bydd tua 38 achos o bobl yn torri'r gyfraith yn y pum mlynedd gyntaf.
Dywedodd Helen Mary AC o Blaid Cymru: "Dydw i wir ddim yn credu ein bod yn debygol o weld dwsinau ar ddwsinau o deuluoedd yn wynebu cael eu herlyn na fyddai fel arall wedi gwneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd2 Awst 2019
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2019