Cynulliad Cymru'n gwrthod rhoi sêl bendith i fil Brexit

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cynulliad Cymru, fel Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, wedi gwrthwynebu cytundeb Brexir Boris Johnson

Mae Aelodau Cynulliad wedi gwrthod rhoi eu sêl bendith i fesur Brexit Boris Johnson, gan ddilyn esiampl Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Dydy'r bleidlais ddim yn golygu y bydd y mesur yn cael ei rwystro rhag dod yn gyfraith gwlad, ond mae'n golygu bod pob un o sefydliadau datganoledig y DU wedi gwrthod cytundeb ymadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma'r tro cyntaf i'r holl weinyddiaethau datganoledig wrthod cydsynio i ddeddfwriaeth Llywodraeth San Steffan sy'n effeithio ar faterion sydd wedi'u datganoli.

Pleidleisiodd 35 o ACau o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn erbyn y bil, ac roedd yna 15 o bleidleisiau o'i blaid.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y bil yn tanseilio datganoli yng Nghymru a hynny mewn modd "unochrog".

Parchu canlyniad 2016

Roedd Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y DU, Stephen Barclay wedi apelio ar weinidogion Cymru i beidio â gwrthod y bil, gan ddweud ei fod yn parchu canlyniad refferendwm 2016, pan gafwyd mwyafrif yng Nghymru dros adael yr UE.

Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd trwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd, ond fe gollodd y llywodraeth dair pleidlais ar y mesur yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Mawrth nad oedd yn "twyllo" ei hun y byddai'r bleidlais yn atal Brexit

Fel arfer, mae'n rhaid i'r gweinyddiaethau datganoledig roi sêl bendith cyn y gall San Steffan ddeddfwriaethu mewn ffordd sy'n effeithio arnyn nhw.

Ond dydy'r methiant i sicrhau cydsyniad Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ddim yn atal y Llywodraeth Geidwadol rhag bwrw ymlaen gyda'r cytundeb.

Roedd Llywodraeth Lafur Cymru'n gwrthwynebu'r cytundeb yn sgil ofnau y bydd yn gwanhau'r berthynas gyda'r UE ac yn niweidio economi Cymru.

'Dim mandad i ddeddfwriaeth wael'

Wrth agor y drafodaeth ddydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford: "Mae Brexit yn mynd i ddigwydd. Mae hynny'n ffaith."

Ond dywedodd bod y mater o sut mae gweithredu Brexit "ymhell o fod wedi ei setlo".

"Dydy mandad i Brexit ddim yn fandad i ddeddfwriaeth wael," meddai, gan honni y bydd y protocol i leddfu ofnau Gogledd Iwerddon ynghylch ffin galed yn achosi "gwrthdaro" ym mhorthladdoedd Cymru.

Byddai'r gyfraith ddim yn caniatáu diwygio Deddf Llywodraeth Cymru, meddai wrth ACau, gan gyhuddo Llywodraeth y DU o "ail-sgwennu'n unochrog y setliad datganoli".

Ychwanegodd nad oedd yn "twyllo" ei hun y byddai gwrthod rhoi sêl bendith yn atal y mesur rhag dod yn gyfraith gwlad.