Diffyg 'hawliau dynol' i glaf anabl o Fachynlleth
- Cyhoeddwyd
Mae dynes anabl o'r canolbarth yn wynebu'r posibilrwydd o gael ei symud i gartref gofal 40 milltir i ffwrdd am nad yw ei chyngor yn fodlon addasu ei chartref.
Fe gollodd Betty Pugh, 60, gwaelod ei dwy goes yn dilyn salwch, ac mae bellach eisiau mynd adref o'r ysbyty.
Ond yn ôl Cyngor Gwynedd, dydy hi ddim yn "rhesymol nac yn ymarferol" i addasu ei chartref ym Mhantperthog, i'r gogledd o Fachynlleth.
Maen nhw wedi cynnig llety cysgodol iddi ym Mlaenau Ffestiniog neu yn Harlech.
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, sy'n cynrychioli anghenion cleifion, yn dweud bod y penderfyniad yn "mynd yn erbyn ei hawliau dynol".
'Bywyd mwy hapus'
Ers rhai wythnosau cyn y Nadolig, mae Ms Pugh wedi bod yn aros i gael dod adref o Ysbyty Machynlleth.
Yn ôl ei theulu, mae angen llwybr ramp sy'n arwain at y tŷ, drws llydan ac addas ar gyfer cadair olwyn, ystafell wely ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod.
Mae hi wedi methu â symud adref yn dilyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i beidio addasu ei thŷ.
"Yr unig beth mae'n gofyn amdano yw i gael dod adref," meddai Carwen Sheen, sydd yn mynd i weld ei modryb yn yr ysbyty bob dydd.
"Mae'n stryglo ymlaen, bob dydd. Mae'n strygl iddi godi o'r gwely ac i fynd yn y gadair olwyn ond mae'n gwybod ar ddiwedd y dydd bod rhaid iddi gario 'mlaen, i ni'r teulu.
"Byddai dod adre'n meddwl popeth. Fydd ei bywyd hi byth yn normal - ond dwi'n gobeithio y bydd hi'n gallu byw bywyd mwy hapus ar ôl hyn i gyd."
Yn ôl ei theulu mae "bywyd wedi bod mor greulon" i Ms Pugh.
Yn 2016 cafodd ei thrydydd diagnosis o ganser, a bu farw ei hunig fab mewn damwain car yn yr un flwyddyn.
Llynedd cafodd wybod bod yn rhaid iddi golli ei dwy goes.
Bellach mae'r teulu wedi troi at y cyhoedd am help ac maen nhw'n gobeithio cwblhau'r gwaith eu hunain.
Mae pobl wedi rhoi dros £2,000 trwy dudalen nawdd tuag at addasu'r tŷ - ond bydd angen mwy eto.
"I weld y wên ar ei hwyneb hi pan ddaw hi adref, byddai hynny yn rhoi gymaint o hapusrwydd i fi," meddai Carwen.
"Dwi'n benderfynol bod o'n mynd i ddigwydd. Dwi methu aros i gael dweud wrthi ei bod hi'n cael dod adref."
Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig lle iddi mewn llety cysgodol ym Mlaenau Ffestiniog neu Harlech.
Mae Ms Pugh, a'r teulu, yn anhapus gyda'r cynnig am ei fod rhy bell o'i chartref ym Mhantperthog.
Cleifion yn 'unig' ac yn 'isel'
Yn ôl Geoff Ryall-Harvey, sy'n cynrychioli hawliau cleifion trwy'r Cyngor Iechyd Cymunedol, mae'r sefyllfa'n "codi'n llawer rhy aml".
"Mae hyn yn amlygu'r angen am gyllideb ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol," meddai.
"Mae'r oedi mewn trosglwyddo'r gofal yn mynd yn groes i'w hawliau dynol ac yn gost ddiangen i'r Gwasanaeth Iechyd.
"Mae'n gallu costio rhwng £700 a £800 y dydd i gadw claf yn yr ysbyty. Byddai'n fwy cost effeithiol i'r awdurdod lleol dalu i addasu'r tŷ ar ei chyfer.
"Rydyn ni'n clywed am unigrwydd, arwahanrwydd ac iselder cleifion sy'n aros i gael mynd adref gyda phobl yn teimlo diffyg rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.
"Ni'n clywed am oedi mewn niferoedd uchel o ran trosglwyddo gofal neu 'bed blocking'. Dydy'r rhain ddim yn dermau addas i ddisgrifio pobl sy'n syml eisiau mynd adref.
"Beth mae'n golygu yw bod pobl yn cael trafferth mewn derbyn y gofal cywir tra'n feddygol iach i adael yr ysbyty - a does dim bai ar y claf am hyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod "pob cais am gymorth tai a gofal drwy'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn cael ei ystyried yn ofalus yn ôl ei deilyngdod ei hun".
"Mewn achosion o'r fath, mae asesiad manwl o anghenion yr unigolyn yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag arolwg o'r eiddo," meddai.
"Mae'r darganfyddiadau yn cael eu cyflwyno i banel sy'n penderfynu a ydy hi'n rhesymol ac ymarferol addasu cartref yr unigolyn.
"Os na fyddai'n bosib addasu cartref presennol yr unigolyn, gall Cyngor Gwynedd helpu tuag at gostau adleoli, pe byddent yn penderfynu symud i eiddo preifat arall y gellid ei addasu i gwrdd â'u hanghenion.
"Gall y Cyngor hefyd helpu'r unigolyn i symud i lety cysgodol addas, os mai hynny fyddai'r opsiwn gorau i'r unigolyn.
"Fel Cyngor, rydan ni bob amser yn agored i gynnal trafodaethau pellach gyda'r unigolyn mewn achosion o'r fath."