'Iaith hynaf Ewrop'?... Chwalu mythau am y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Oes yna 'ffeithiau' am y Gymraeg sy'n eich llenwi chi gyda balchder? Pa mor hen yw'r Gymraeg neu darddiad geiriau efallai.
Ond efallai bod rhai o'r pethau rydych chi'n ei feddwl am y Gymraeg yn anghywir.
Mae Dr Gareth Roberts yn wreiddiol o Ddolgellau yng Ngwynedd, ond mae bellach yn gweithio fel ieithydd yn y brifysgol Ivy League, University of Pennsylvania yn Philadelphia.
Yma mae Gareth yn trafod rhai o'r camsyniadau cyffredin sy'n bodoli am y Gymraeg:
Y Gymraeg ydy iaith hynaf Ewrop
Mae'r myth yma'n gyffredin ond, yn anffodus, mae'n rhaid ei chwalu. Un broblem, wrth gwrs, ydy deall beth mae 'hynaf' yn ei feddwl yn y lle cyntaf.
Beth ydy dyddiad geni'r Gymraeg? Wel, byddai'n well sôn am broses o esblygiad. Esblygodd y Gymraeg (a'i chwiorydd, Cernyweg a Llydaweg) allan o'r iaith Frythoneg a siaradwyd ym Mhrydain ers cyn i'r Rhufeinwyr gyrraedd.
Gawn ni ddweud felly fod Cymraeg mor hen â Brythoneg? Efallai, ond mae 'na broblem...
Rhaid cofio bod Brythoneg ei hun yn tarddu yn wreiddiol o'r iaith Broto-Celteg (sef hynafiad cyffredin yr ieithoedd Celtaidd), sydd ei hun yn tarddu o'r iaith Broto-Indo-Ewropeg, sef hynafiad cyffredin y rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop!
Mae'r llwybr hwn, felly, yn ein harwain at y casgliad bod Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Groeg, Rwsieg, Perseg (a llwyth o ieithoedd eraill) i gyd mor hen a'i gilydd.
Ond efallai nad hwnnw oedd y llwybr gorau yn y lle cyntaf! Beth am ddyddio genedigaeth yr heniaith i ba bynnag adeg yr ymddangosodd fersiwn o Gymraeg mae modd ei gwahaniaethu oddi wrth Gernyweg a Llydaweg?
Wel, mae'n anodd rhoi dyddiad penodol ar broses o esblygiad, ond mae'n debyg cawn ddweud i hyn ddigwydd tua'r un adeg ag yr oedd yr iaith Saesneg yn ymffurfio allan o'r tafodieithoedd Germaneg oedd yr Eingl-Sacsoniaid yn eu siarad. Sydd ddim yn gwneud Cymraeg yn arbennig o hen...
Ond mi gawn ddweud serch hyn i gyd fod y Gymraeg a'i hynafiaid wedi cael eu siarad ym Mhrydain yn hirach na'r ieithoedd eraill a sy'n cael eu siarad ym Mhrydain. Ry'n ni yma o hyd, ac (yn bwysicach i'r cwestiwn hwn) mi oeddem ni yma cyn y lleill!
Ond nid y Gymraeg yn unig sy'n cael honni hyn am ei bro ei hun. Mae'n debyg i Fasgeg, er enghraifft, gyrraedd ei chynefin presennol cyn i unrhyw iaith Indo-Ewropeaidd ymgartrefu yn Ewrop! Ac maen nhwythau'r Basgiaid yno o hyd hefyd.
Mae'r gair 'Wales' yn golygu "Gwlad yr estroniaid"
'Cydwladwyr' mae'r gair Cymry yn ei olygu, ond Wealas' (Wealh oedd y ffurf unigol) oedden ni i'r Eingl-Sacsoniaid - sydd yn golygu 'estroniaid', onid ydy o? Wel, dim yn union...
Mae'n wir fod aelodau'r llwythau Germanaidd a ymfudodd i Brydain o'r bumed ganrif ymlaen yn meddwl am y Wealas fel estroniaid, ond nid gair am estroniaid yn gyffredinol oedd hwn.
I ddechrau, yn ôl ar y cyfandir, mae'n ymddangos mai gair am Geltiaid oedd o wedi bod. Ond mae'n debyg i'r llwythau Germanaidd fod ychydig yn ansicr o'r gwahaniaethau rhwng y bobl wahanol oedd yn byw i'r gorllewin, yn enwedig ar ôl i fyd Celtaidd gorllewin Ewrop syrthio i'r Rhufeiniaid ac, yn sgil hynny, ddechrau edrych a swnio'n bur debyg i'r byd Rhufeinig.
Erbyn i gasgliad o'r pobloedd Germanaidd - yr Eingl, y Sacsoniaid, a'r Iwtiaid - ddechrau symud i Brydain, roedden nhw'n defnyddio'r gair Wealas am fwy neu lai pawb yn yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol.
Y Rhufeiniaid a'u deiliaid oedd y Wealas erbyn hynny, felly. Estroniaid, siŵr iawn, ond nid oedd pob estronwr yn 'Wealh'.
Faint o lafariaid sydd yn y Gymraeg?
Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r myth gwirion nad oes gan y Gymraeg ddigon o lafariaid. Ac mae'r ateb yn dod yn hawdd: Mae gan y Gymraeg fwy o lafariaid na'r Saesneg! Saith, o'i gymharu â phump, siŵr iawn!
Ond ydy hyn yn dal dŵr? Y broblem ydy nad math o lythyren ydy llafariad o ddifrif, ond math o sain lafar.
Wrth gwrs y defnyddiwn ni'r geiriau 'llafariaid' a 'cytseiniaid' i ddisgrifio llythrennau, ond dydy'r ddau gategori hyn ond yn gwneud synnwyr os ystyriwn y seiniau tu ôl i'r llythrennau.
Mae llafariad yn sain sy'n cael ei llefaru mewn modd sydd yn gadael i'r aer o'r ysgyfaint basio trwy'r geg heb rwystrad sylweddol (a chymharu â chytsain, sef sain lle mae'r aer yn cael ei gywasgu neu'i atal).
Mae tua 11-13 o wahanol lafariaid yn y Gymraeg (yn dibynnu ar y dafodiaith), heb gynnwys deuseiniaid (sef dwy lafariad wedi eu gwasgu at ei gilydd).
Mae gan y Saesneg tua'r un faint, sydd efallai ychydig yn siomedig.
Wedi dweud hynny, mae'n ddiddorol ystyried bod sillafau heb yr un llafariad yn digwydd yn amlach yn Saesneg nag yn y Gymraeg. Hynny ydy, mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Saesneg fel arfer yn ynganu geiriau fel table neu bobble heb yr un llafariad yn yr ail sillaf o gwbl.
Mewn sefyllfeydd tebyg yn y Gymraeg, mae mwy o dueddiad i fewnosod llafariad. Cymharwch a bobble (Saesneg) ac 'y bob[o]l' (Cymraeg) er enghraifft. Gallai hyn fod yn ymateb llawer iawn gwell i'r honiad gwirion am ddiffyg llafariaid yn y Gymraeg, gan gymryd y bydd digon o amser ar gael i'w egluro wrth gwrs...
Hefyd o ddiddordeb: