Ydy figaniaeth yn mynd i achub y byd?
- Cyhoeddwyd
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar Veganuary ym mis Ionawr gan obeithio taw newid deiet yw'r ffordd i achub y blaned?
Gyda'r galw yn cynyddu am ateb i atal cynhesu bydeang, mae nifer yn taeru taw deiet figan yw'r ffordd orau i leihau allyriadau carbon. Ond ydy'r ateb mor syml â hynny?
Bu Cymru Fyw'n siarad â gwyddonwyr i fynd at wraidd y ffeithiau a'r ymchwil cyfredol o ran effaith ein deiet a dulliau ffermio Cymru ar yr amgylchedd.
Mae Prysor Williams yn ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Yma mae'n trafod effaith ein deiet ar allyriadau carbon.
Mae mwy o drafod nac erioed am beth y gallwn wneud er mwyn atal y byd rhag cynhesu'n beryglus. Mae dyletswydd ar ein llywodraethau i arwain y frwydr, ond mae cyfrifoldeb ar bob unigolyn hefyd.
Felly sut mae'r ffordd rydym yn byw yn effeithio ar allyriadau carbon, sy'n gyrru newid hinsawdd?
Y prif ffynonellau o garbon o weithgareddau dynol yw'r ynni sy'n cynhesu ein hadeiladau, y tanwydd a losgir wrth deithio, y pethau rydym yn prynu, a'n dewis o fwyd.
O'r rhain, mae mwy o sôn am effaith ein deiet nac unrhyw ffactor arall, a does dim yn amlygu hyn yn fwy na'r sylw mae figaniaeth yn ei gael yn Ionawr. Rwyf wedi clywed sawl tro mai'r 'ateb' i atal newid hinsawdd yw newid deiet - och na fyddai mor syml â hynny!
Heb os, mae'n dewis o fwyd yn ffactor - does r'un bwyd 'am ddim' o ran effaith amgylcheddol - mae angen trin y tir ar gyfer y cnwd, mae'r cnwd angen mewnbynnau, mae angen ei brosesu, ei gludo, a'i goginio... mae'r holl gamau yma'n cael effaith.
Wrth gwrs, mae defaid a gwartheg yn ffynhonnell o'r nwy tŷ gwydr cryf, methan, sy'n cael ei ryddhau gan ficro-organebau wrth iddynt dreulio glaswellt. Mae gwrteithio'r tir hefyd yn rhyddhau nwy tŷ gwydr cryf arall, sef ocsid nitrus.
Storio carbon
Ar y llaw arall, mae priddoedd glaswelltir yn storfa enfawr o garbon (mae rhyw 150 miliwn tunnell o garbon ym mhriddoedd Cymru), ac fe wyddwn fod sgôp i gynyddu'r lefelau carbon ymhellach ar lawer o briddoedd Cymru trwy arferion rheoli da, e.e. peidio troi/aredig y porfeydd parhaol ble cynhyrchir llawer o'r anifeiliaid.
Mae gan rai rhannau o'r byd, gan gynnwys Cymru, hinsawdd arbennig o dda ar gyfer tyfu glaswellt, sy'n gallu helpu i gynyddu lefelau carbon y pridd ymhellach, sy'n help i 'wrthwneud' cyfran o'r allyriadau.
A yw'n deg felly rhoi cymaint o'r bai am newid hinsawdd ar amaethu anifeiliaid?
Mae amrywiaeth eang iawn mewn systemau cynhyrchu anifeiliaid ar draws y byd. Golyga hyn fod amrywiaethau mawr mewn faint o nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu rhyddhau am bob uned o gynnyrch o ffermydd.
Mae gan rai systemau cynhyrchu anifeiliaid effeithiau amgylcheddol difrifol iawn tra bod systemau eraill ag ôl troed carbon llawer is, e.e. ble mae defnydd da o laswellt fel ar lawer o ffermydd Cymru. Mae'n beth peryglus a chamarweiniol, felly, gor-gyffredinoli a defnyddio gormod ar werth 'cyfartaledd' - gall hyn guddio llawer o wahaniaethau pwysig!
Effaith deiet figan ar yr amgylchedd
Rhaid cofio fod gan ddeiet figan y potensial i fod yn amgylcheddol andwyol, hefyd. Mae'r bwydydd yn aml wedi eu prosesu ac wedi eu cludo o bob cwr o'r byd - nid yw ffermwyr Cymru'n debygol o fod yn gallu tyfu afocados na chnau almon yn y dyfodol pell, nac agos.
Gall deiet figan hefyd fod llawer fwy dibynnol ar blaleiddiaid [pesticides], a gwrtaith anorganig. Yn wir, mae rhai o broblemau amgylcheddol mwyaf dybryd systemau amaeth (erydiad pridd, i enwi ond un), i'w canfod ar ffermydd llysiau.
Mae her yn wynebu pob elfen o'r sector bwyd-amaeth, nid dim ond y sector anifeiliaid.
Does dim amheuaeth y bydd rhaid i amaeth, fel pob diwydiant arall, chwarae ei ran mewn lleihau allyriadau carbon. Credaf ein bod ar drothwy nifer o ddatblygiadau ymchwil hynod gyffrous, fydd yn gweddnewid effeithiau amgylcheddol cynhyrchu bwyd - datblygiadau technolegol ac yn y byd geneteg, er enghraifft.
Ochr yn ochr â hyn, gall ffermwyr wneud mesurau eraill, megis cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gwarchod mawndir a phlannu rhagor o goed mewn llefydd priodol.
Newid ymddygiad
O ran ein deiet, dylem sicrhau fod ein bwyd oll yn deillio o ffynonellau cynaliadwy.
Fodd bynnag, fyddai hyn ohono'i hun ddim yn ddigon i atal newid hinsawdd - bydd angen newid ymddygiad ar draws llawer fwy o sectorau, gan gynnwys lleihau faint rydym yn hedfan a gyrru, gwella effeithlonrwydd cynhesu ein tai, lleihau gwastraff a newid patrymau rheoli tir, i enwi ond rhai pethau.
Cofiwch hyn wrth wrando ar gyngor selebs sy'n hyrwyddo deiet arbennig er mwyn atal newid hinsawdd, tra'u bod yn teithio o gwmpas y byd yn llosgi tanwydd yn eu hawyrennau preifat!
Mae Sharon Huws o Aberteifi yn wyddonydd ac yn athro mewn gwyddor anifeiliaid a microbioleg ym Mhrifysgol Belffast. Mae'n arbenigo mewn ymchwil am wella cynhyrchiad cil-gnowyr (e.e. defaid a gwartheg) gan leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.
Mae newidiadau hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf wedi effeithio'n ddifrifol ar ein hamgylchedd ac mae nifer yn dweud mai'r ateb yw i symud i ddeiet figan. Yn aml iawn mae emosiynau y ddau ochr o'r ddadl yn golygu nad yw'r ffeithiau a'r data yn cael eu hystyried yn ddigonol.
Wrth ystyried yr ystadegau beth yw'r ateb?
Nwyon tŷ gwydr
Yn ôl yr IPCC (The Intergovernmental Panel on Climate Change) mae 76% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn dod o ddefnydd o danwydd, gyda 24% o hyn yn dod o hedfan, a 14% yn dod o amaethyddiaeth, gan gynnwys allyriadau methan o gil-gnowyr a rheolaeth gwrtaith.
Felly does dim amheuaeth bod angen i ni edrych ar y diwydiant cig coch yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Er hyn mae'n bwysig i gofio mai hedfan sy'n bennaf ar fai am newid hinsawdd.
Effaith deiet figan
Yng Nghymru, nid yw'n bosib tyfu'r amrywiaeth o blanhigion sydd ei angen ar gyfer deiet figan, oherwydd ein hinsawdd. Felly er mwyn cael amrywiaeth ac i sicrhau maetholion angenrheidiol yn y deiet, mae angen bwyta ffrwythau a llysiau a ddaw o wledydd poeth, fel arfer mewn awyren e.e. cnau, afocado, cnau coco, 'llaeth' o gnau ayyb.
Felly, gall deiet figan fod yn ateb i newid hinsawdd os ydyn ni'n bwyta bwyd lleol yn unig, ond mae'n anodd iawn i sicrhau y maeth sy'n angenrheidiol i'n hiechyd ni drwy fwyta'r hyn sy' ar gael yn lleol yn unig.
Yn ogystal, mae'r sefyllfa'n wahanol i blant gan fod nifer o astudiaethau'n dangos bod deiet figan ddim yn cymharu gyda deiet sy'n cynnwys cig er mwyn sicrhau datblygiad corfforol a meddyliol plant.
Ydy deiet cig yn gynaliadwy?
Mae'n rhaid cael polisïau mwy cynaliadwy mewn lle sy'n cynnwys plannu coed i ddal y carbon. Mae symudiadau yn y cyfeiriad hwn yn barod sy'n bositif iawn.
Mae'r sefyllfa yn fwy cymhleth oherwydd fod cil-gnowyr hefyd yn bwydo o dir mynyddog sy' ddim yn gallu cael ei ddefnyddio at ddiben arall. Maent yn gallu pori planhigion o ansawdd gwael a'i ddefnyddio i greu protein i dyfu cyhyrau sy' yn y diwedd yn bwydo pobl.
Bwyta bwyd lleol
Er hyn, dylen ni leihau ein mewnbwn o gig coch, ac yn ôl maethegwyr, dylen fwyta ar gyfartaledd tua 90g y dydd yn hytrach na'r cyfartaledd presennol o tua 240g y dydd.
Mae maethegwyr yn awgrymu hyn am resymau iechyd er mwyn lleihau problemau fel heintiau cardiofasgwlaidd.
Felly, yr ateb mwyaf syml yn ôl y ffeithiau, ac o ystyried newidiadau o ran hinsawdd a'n hiechyd, yw i fwyta llai o gig coch, ac i fwyta cynnyrch lleol (cig, ffrwythau a llysiau lleol), gan blannu mwy o goed ar y tir fyddai system fwy cynaliadwy o fagu cil-gnowyr yn rhyddhau. Fyddai hyn hefyd yn sicrhau bod plant ac oedolion yn cael y maetholion angenrheidiol mewn modd mwy cynaliadwy ac iach.
Mae'n bwysig i fwytawyr cig a figanwyr barchu ei gilydd, ac os yw figanwyr yn bwyta bwyd lleol ac yn sicrhau deiet sy'n cynnwys y maetholion angenrheidiol, yna mae'n beth bositif i'r amgylchedd ac i'r gwasanaethau iechyd.
Y brif neges yw: meddyliwch am gylch bywyd yr hyn rydych yn bwyta ac yn enwedig pa fath o drafnidiaeth sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn i'r bwyd gyrraedd ein platiau.