'Pryderon difrifol' am ysgol wedi honiadau am bennaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad wedi codi "pryderon difrifol" am ysgol breifat yn Sir Ddinbych yn dilyn honiadau am eu pennaeth.
Yn ôl adroddiadau yn y Times a'r Daily Mail fe wnaeth pennaeth Ysgol Rhuthun, Toby Belfield, anfon negeseuon amhriodol i ddisgyblion benywaidd.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC y dylai'r ysgol gadarnhau a oedd Mr Belfield wedi ei wahardd dros dro neu beidio, a bod angen cymryd camau i dawelu meddyliau rhieni.
Fe wnaeth adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru ganfod bod "risg o niwed" i ddisgyblion Ysgol Rhuthun am nad oedd yr ysgol yn dilyn eu cyfrifoldebau diogelu pan gafwyd arolwg ym mis Tachwedd y llynedd.
'Cryfhau atebolrwydd'
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru fod yr honiadau am Mr Belfield yn ychwanegu at bryderon a gododd yn sgil arolwg AGC.
"Mae'r canfyddiadau diweddaraf yma am bennaeth Ysgol Rhuthun yn dyst i'r pryderon diogelwch difrifol gafodd eu hamlygu yn adroddiad hynod feirniadol Arolygiaeth Gofal Cymru," meddai.
"Mae angen i ni gael tawelwch meddwl nawr. Petai hon yn ysgol a oedd yn cael ei rhedeg gan awdurdod lleol dwi'n siŵr y byddai camau sydyn wedi'u cymryd eisoes ar ôl i'r pryderon godi."
Dywedodd Mr Gruffydd fod cwestiynau yn codi ynghylch rheolaeth yr ysgol os oedd Mr Belfield yn parhau yn ei swydd yn dilyn yr honiadau a'r adroddiad beirniadol.
Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar "gryfhau atebolrwydd" ysgolion preifat o ran diogelwch disgyblion.
"Mae diogelwch plant yn hollbwysig," meddai. "Byddai'n codi hyn eto ar y cyfle cyntaf gyda'r llywodraeth a galw arnyn nhw i gymryd camau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r ysgol a Mr Belfield am ymateb. Dydy'r un ohonyn nhw wedi gwneud sylw hyd yma yn dilyn yr adroddiadau yn y wasg.
Fodd bynnag, mewn datganiad yn gynharach yn yr wythnos, fe ymatebodd yr ysgol i adroddiad AGC gan ddweud ei bod eisoes yn cynnal adolygiad trylwyr adeg yr arolwg a'u bod wedi "ymateb yn llawn" i'r pryderon gafodd eu codi.
"Bydd y gwaith rydyn ni'n gwneud nawr yn sicrhau bod camau llywodraethol a gweithredol yr ysgol yn parhau i symud gyda'r oes fodern," meddai'r datganiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd14 Mai 2015