Elfyn Evans yn gorffen yn drydydd yn rali Monte Carlo

  • Cyhoeddwyd
elfynFfynhonnell y llun, Getty Images

Trydydd oedd y Cymro Elfyn Evans yn rali Monte Carlo ar ôl iddo arwain y gystadleuaeth dros nos.

Thierry Neuville gipiodd y fuddugoliaeth yn yr Hyundai. Roedd y gyrrwr o wlad Belg wedi bod yn fygythiad i Evans a'i gyd-aelod o dîm Toyota, Sebstian Ogier, trwy gydol y ras.

Roedd Neuville wedi ennill tir ar y ddau bnawn Sadwrn ac roedd o'n gyflymach yn y pedwar cymal ddydd Sul.

Fe orffennodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy 14 eiliad y tu ôl i Neuville a 12 eiliad ar ôl Ogier. Roedd y Cymro bedair eiliad ar y blaen dros nos.

Dywedodd Evans ei fod yn siomedig gyda'r cymalau olaf.

"Roedden i yn hapus tan neithiwr. Fedra i ddim d'eud fy mod i wedi bod yn hapus heddiw. 'Naeth pethau ddim clicio a dwi ddim yn siwr be' ydy'r rheswm am hynny."

Ychwanegodd: "Mae ganddom ni dipyn o waith i'w wneud, ond ar y cyfan roedd o'n benwythnos positif."