Marwolaeth dyn yng Glyn-nedd yn 'achos o lofruddiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Glyn-nedd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl i gorff dyn 73 oed gael ei ddarganfod yng Nglyn-nedd brynhawn dydd Llun.

Cafodd yr heddlu eu galw i Lôn Danygraig ger traphont Pontwalby yn dilyn adroddiad fod corff wedi cael ei ddarganfod.

Mae swyddogion wedi arestio dyn lleol 28 oed, ac mae e bellach yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd y swyddog sy'n arwain yr ymchwiliad, Ditectif Uwch-Arolygydd Darren George: "Rydyn ni'n awyddus i siarad gydag unrhyw un a oedd yn ardal Pontwalby rhwng 14:00 a 20:00 nos Lun ac a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal.

"Mae hi'n ddyddiad cynnar i'r ymchwiliad ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i aelodau o'r teulu.

"Rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth - dim ots pa mor ddibwys maen nhw'n ei gredu ei fod e - i gysylltu â ni."