Corff A548: Marwolaeth 'ddim yn amheus'

  • Cyhoeddwyd
Gronant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y brif ffordd rhwng Gronant a Phrestatyn wedi ei chau am gyfnod

Mae patholegydd y Swyddfa Gartref wedi dweud nad yw marwolaeth dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw ger ffordd brysur yn amheus.

Cafodd corff dyn ei ddarganfod nos Wener 24 Ionawr ar ochr arfordirol yr A548 rhwng Gronant a Phrestatyn.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod bynnag fod y farwolaeth yn dal heb esboniad.

Credir mai Terrance Joseph Moores, dyn 63 oed o ardal Stockport yn Sir Gaer, oedd y corff.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Elfyn Hughes: "Mae'r teulu wedi cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol dros y penwythnos ac wedi cael gwybod am y datblygiad.

"Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni mewn ymateb i'r apêl am wybodaeth, ac i'r busnesau cyfagos sydd wedi bod o gymorth mawr."