Jasmine Joyce a Hannah Jones yn ôl i herio'r Eidal

  • Cyhoeddwyd
Jasmine Joyce a Hannah JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jasmine Joyce a Hannah Jones golli gemau'r hydref tra'n chwarae yn Awstralia

Mae Jasmine Joyce a Hannah Jones wedi cael eu henwi yn nhîm merched Cymru ar gyfer eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal.

Fe wnaeth y ddau golli gemau'r hydref ar ôl derbyn cynnig i chwarae yng nghynghrair saith-bob-ochr Awstralia.

Mae Alisha Butchers ar y fainc, sydd hefyd yn cynnwys yr unig chwaraewr heb gap yn y 23 - Ruth Lewis.

Siwan Lillicrap fydd yn arwain y tîm fel capten.

Bydd Cymru'n herio'r Eidal ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd am 13:00 ddydd Sul.

Tîm merched Cymru

Kayleigh Powell; Jasmine Joyce, Hannah Jones, Kerin Lake, Lisa Neumann; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Cerys Hale, Natalia John, Gwen Crabb, Alex Callender, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap (capt).

Eilyddion: Molly Kelly, Cara Hope, Ruth Lewis, Georgia Evans, Alisha Butchers, Manon Johnes, Ffion Lewis, Paige Randall.