Cyhoeddi carfan Merched Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae carfan Merched Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni wedi cael ei chyhoeddi - a hynny yn absenoldeb y prif hyfforddwr.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ym mis Hydref y llynedd bod Rowland Phillips yn "cymryd ychydig o amser i ffwrdd" o'i ddyletswyddau.
Cafodd Gareth Wyatt, Chris Horsman a Geraint Lewis eu henwi fel hyfforddwyr y tîm yn ei le ar gyfer gemau'r hydref, ac maen nhw'n parhau wrth y llyw.
Nid yw cyn-gapten Cymru a merch Rowland Phillips, Carys, wedi ei henwi ymysg y 34 o chwaraewyr.
Siwan Lillicrap sy'n derbyn y gapteniaeth ar gyfer yr ymgyrch, sy'n dechrau gyda gêm yn erbyn Yr Eidal ar Barc yr Arfau, Caerdydd ar 2 Chwefror.
Cadarnhaodd URC fod Phillips yn "parhau i gymryd amser i ffwrdd o'r rhaglen".
Dim ond un chwaraewr - prop y Gweilch, Ruth Lewis - sydd heb ennill cap rhyngwladol, er bod 11 a wnaeth eu hymddangosiad cyntaf yn yr hydref wedi'u cynnwys.
Daeth cadarnhad hefyd gan URC fod cyn-gapten tîm saith-bob-ochr Lloegr, Ollie Phillips, wedi'i benodi i arwain tîm saith-bob-ochr merched Cymru.
Carfan Merched Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad:
Blaenwyr: Alisha Butchers, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans, Abbie Fleming, Cerys Hale, Lleucu George, Cara Hope, Natalia John, Manon Johnes, Kelsey Jones, Molly Kelly, Sarah Lawrence, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap (c), Robyn Lock, Gwenllian Pyrs.
Olwyr: Keira Bevan, Hannah Bluck, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Courtney Keight, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Ffion Lewis, Lisa Neumann, Kayleigh Powell, Paige Randall, Lauren Smyth, Elinor Snowsill, Niamh Terry, Megan Webb, Robyn Wilkins.