Estyn yn beirniadu Ysgol Rhuthun ar ei dyletswyddau diogelu
- Cyhoeddwyd
Mae arolygwyr ysgol wedi canfod bod ysgol breifat yn Sir Ddinbych yn methu â chyflawni ei dyletswyddau diogelu.
Daw hyn ddyddiau ar ôl i adroddiad arall ddweud bod disgyblion yno mewn perygl o niwed.
Yn ôl adroddiadau yn y Times a'r Daily Mail yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth pennaeth Ysgol Rhuthun, Toby Belfield, anfon negeseuon amhriodol i ddisgyblion benywaidd.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r corff arolygiaeth ysgolion Estyn gynnal ymweliad dirybudd ar ôl i bryderon gael eu codi am Ysgol Rhuthun.
Daeth arolygwyr i'r casgliad nad yw'n cydymffurfio â rheoliadau ar gyfer ysgolion annibynnol ar les, iechyd a diogelwch disgyblion.
Dywedodd arolygiad arall gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Tachwedd hefyd fod yr ysgol yn methu â chyflawni cyfrifoldebau diogelu.
Awgrymodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y gallai'r ysgol gael ei dadgofrestru.
Mewn datganiad i Aelodau'r Cynulliad ddydd Mercher, dywedodd Ms Williams fod Cyngor Rheoli'r ysgol wedi cael cais i ddarparu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r methiannau.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n ystyried y camau nesaf ar ôl derbyn adborth gan Estyn oedd yn cwestiynu effeithiolrwydd y cynllun.
Dywedodd Estyn fod polisi diogelu'r ysgol yn "addas" ond fod y Cyngor Rheoli heb sicrhau ei fod yn cael ei weithredu'n iawn.
Dywedodd arolygwyr nad yw rôl y pennaeth wedi'i diffinio'n fanwl, felly nid oedd yn glir i ba raddau y mae'r pennaeth wedi'i eithrio o ganllawiau penodol a sut y cawn nhw eu dwyn i gyfrif.
Barnodd arolygwyr nad yw'r ysgol yn cwrdd â gofynion Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003.
Ymhlith yr argymhellion mae gweithredu trefniadau cadarn ar gyfer adrodd pryderon diogelu i uwch arweinwyr ac ymddiriedolwyr, a chreu diwylliant o ddiogelu disgyblion ledled yr ysgol.
'Risg barhaus i ddisgyblion'
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, nad oedd gan y llywodraeth bwerau i orfodi ysgol annibynnol i ddiswyddo aelod o staff.
"Fodd bynnag, rwy'n disgwyl i bob ysgol annibynnol weithredu er budd gorau disgyblion, a sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu cyfreithiol," ychwanegodd.
"Os na fydd ysgol annibynnol yn gweithredu i ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy'n ddisgyblion yn yr ysgol mewn ffordd y mae Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn credu sy'n briodol, y sancsiwn yn y pen draw fyddai tynnu'r ysgol o'r gofrestr ysgolion annibynnol.
"Byddai hyn yn golygu na allai'r ysgol gynnig addysg amser llawn bellach," meddai'r gweinidog.
Dywedodd y byddai ACau yn cael diweddariad pellach maes o law.
Mewn ymateb i'r datganiad, dywedodd Llŷr Gruffydd AC o Blaid Cymru y dylai'r pennaeth a'r bwrdd rheoli "gamu i lawr".
"Mae'n destun pryder mawr fod risg barhaus i ddisgyblion ac nid yw [hynny] yn helpu unrhyw un - mae disgyblion, staff, rhieni a'r gymuned ehangach yn haeddu mwy o sicrwydd.
"Mae'r gweinidog yn sôn am gau yn y pen draw, rhywbeth dyw unrhyw un eisiau ei weld yn digwydd, ond bydd hynny'n dod yn opsiwn real iawn oni bai bod rheolwyr yr ysgol yn gweithredu'n glir ac yn bendant."
Ymateb yr ysgol
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Ysgol Rhuthun eu bod nhw'n "croesawu" adroddiadau Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
"Hoffem fod yn glir bod Cyngor Rheoli'r ysgol wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod argymhellion y ddau adroddiad yn cael eu gweithredu," meddai.
"Mae'r ysgol yn benderfynol o sicrhau bod pob cam priodol yn cael ei gymryd i sicrhau bod ei hirhoedledd yn cael ei sicrhau.
"Mewn ymateb i adroddiad Estyn, lluniodd y Cyngor Rheoli Gynllun Gweithredu cynhwysfawr ym mis Tachwedd 2019 ar gyfer sut mae'n cynnig mynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad. Cyflwynwyd hwn i Lywodraeth Cymru ar 17 Ionawr 2020, ac rydym yn aros am eu hymateb.
"Mae'r ysgol yn credu bod y Cynllun Gweithredu yn darparu strategaeth effeithiol mewn ymateb i'r pryderon a godwyd. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod yr holl welliannau angenrheidiol i system ddiogelu'r ysgol yn cael eu gwneud.
"O ran y sefyllfa'r pennaeth, mae ymchwiliadau allanol parhaus yn cael eu cynnal, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r holl asiantaethau perthnasol mewn perthynas â nhw.
"Nid yw'r pennaeth wedi bod yn cyflawni ei rôl tra bo'r ymchwiliadau hyn yn parhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020