Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am ganslo llawdriniaethau

  • Cyhoeddwyd
(o'r chwith): Llwyhelyg, Tywysog Philip, Bronglais a GlangwiliFfynhonnell y llun, JOHN LUCAS/GEOGRAPH/GOOGLE
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid canslo llawdriniaethau ddechrau Ionawr yn ysbytai (o'r chwith uchaf gyda'r cloc) Llwynhelyg, Tywysog Phillip, Bronglais a Glangwili

Mae cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymddiheuro i gleifion y bu'n rhaid canslo'u llawdriniaethau oherwydd pwysau misoedd y gaeaf.

Yng nghyfarfod cyntaf y bwrdd ers y penderfyniad i ganslo llawdriniaethau, dywedodd Maria Battle ei bod "yn gresynu'n ddwfn ynghylch anhwylustod" i'r cleifion.

Dywedodd wrth aelodau'r bwrdd bod staff "yn gwneud popeth posib i aildrefnu".

Clywodd y cyfarfod yn Hwlffordd bod £4m ar gael i'r bwrdd ymdopi â'r pwysau ychwanegol dros y gaeaf.

Dywedodd y prif weithredwr, Steve Moore bod y bwrdd wedi penderfynu canslo llawdriniaethau wedi i'r cynnydd yn y galw am driniaeth gyrraedd "y lefel uchaf".

Roedd y bwrdd wedi cymryd camau mewn ymateb gan gynnwys galw staff i'r gwaith.

Clywodd y cyfarfod bod nifer o ffactorau wedi arwain ar "heriau heb eu tebyg", gan gynnwys "pwysau cynnar yn sgil ffliw" ym mis Rhagfyr.

Hefyd doedd 30 o welyau ddim ar gael yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ym mis Rhagfyr yn dilyn achosion o norovirus.

Mae'r galw bellach, yn ôl Mr Moore, "yn dychwelyd i lefelau arferol adeg yma'r flwyddyn" ond bod adrannau'n dal yn brysur.

Ychwanegodd ei fod yn "optimistaidd" na fydd unrhyw glaf yn aros am yn hirach na 36 wythnos am ofal sydd wedi ei drefnu o flaen llaw erbyn diwedd Mawrth.