Canslo llawdriniaeth yn sgil 'pwysau argyfyngus' y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
(clockwise from left): Withybush, Prince Philip, Bronglais a GlangwiliFfynhonnell y llun, JOHN LUCAS/GEOGRAPH/GOOGLE
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawdriniaethau wedi'u canslo yn ysbytai (o'r chwith uchaf gyda'r cloc) Withybush, Tywysog Phillip, Bronglais a Glangwili

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi canslo'r holl lawdriniaethau oedd wedi'u trefnu o flaen llaw dydd Llun oherwydd "pwysau difrifol" ar y gwasanaeth.

Penderfynodd y bwrdd iechyd i ganslo'r holl lawdriniaethau yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Phillip a Llwynhelyg.

O ganlyniad maen nhw'n gofyn i gleifion ddefnyddio gwasanaethau eraill ble fo hynny'n bosib ac i beidio mynd i uned frys ysbyty os nad oes rhaid.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda does dim cynlluniau ar hyn o bryd i ganslo llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu ar gyfer ddydd Mawrth.

Daw wrth i fyrddau iechyd eraill yng Nghymru ddweud bod pwysau difrifol ar adrannau brys eu hysbytai ar hyn o bryd hefyd.

Dywedodd Dr Philip Kloer, cyfarwyddwr meddygol Hywel Dda: "Dros y penwythnos fe wnaeth ysbytai gyrraedd lefel o alw sydd erioed wedi'i weld o'r blaen ac rydym wedi gohirio llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu er mwyn gwarchod diogelwch cleifion."

Ychwanegodd: "Mewn ymateb i'r pwysau heddiw rydym yn adleoli staff i ardaloedd ble mae angen cefnogaeth ychwanegol ac yn cysylltu â staff sydd i ffwrdd ar hyn o bryd.

"Rydym hefyd yn gweithio gydag aelodau o staff yn yr awdurdod lleol a theuluoedd y rheiny sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty er mwyn sicrhau bod y rheiny sy'n ddigon iach i fynd adref yn gadael cyn gynted â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gofyn i bobl beidio defnyddio gwasanaethau argyfwng os nad oes angen

Mae tri bwrdd iechyd yng Nghymru wedi datgan bod eu hadrannau gwasanaethau argyfwng o dan "bwysau difrifol".

Yn ogystal â Hywel Dda, dywedodd byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr bod "pwysau argyfyngus" ar eu gwasanaethau brys, meddygon teulu a gwasanaethau cymunedol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod "nifer fach iawn" o lawdriniaethau wedi cael eu canslo yn Ysbyty Abergele a bod ambell aelod o staff yno wedi symud i weithio yn Ysbyty Glan Clwyd i helpu yn y cyfamser.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Mary Jones bod "diffyg adnoddau" gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda

Mae'r sefyllfa yn "bryderus iawn" yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar iechyd ac AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, Helen Mary Jones.

Dywedodd bod "mater difrifol iawn o ddiffyg adnoddau" dros ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda dan reolaeth Llafur Cymru.

"Byddaf yn herio'r Gweinidog Iechyd Llafur sy'n gyfrifol am iechyd yng Nghymru ar yr hyn mae'n bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â chamreolaeth ei lywodraeth o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angela Burns bod hi'n "poeni" am allu Hywel Dda "i ddelio gydag argyfwng go iawn"

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd bod methiant y llywodraeth Lafur i reoli'r gwasanaeth iechyd yn "rhyfeddol".

Ychwanegodd Angela Burns AC bod y llywodraeth yn methu â chynllunio ar gyfer y gaeaf.

"Os ydy rheolwyr yn gorfod canslo llawdriniaethau, yna mae'n adlewyrchiad gwael o'u gallu i gynllunio ar gyfer achlysuron arferol, tymhorol, ac rydw i'n poeni am sut all Hywel Dda ddelio gydag argyfwng go iawn os ddaw un," meddai.

'Pwysau sylweddol iawn'

Yn trafod pwysau'r gaeaf fore Llun, dywedodd y Prif Weinidog bod y system dan "bwysau sylweddol iawn" ond ei fod yn "parhau i ymateb yn bositif" i'r straen.

Dywedodd Mark Drakeford bod cynlluniau ei lywodraeth a'r £30m o arian ychwanegol wedi "galluogi i fyrddau iechyd baratoi at y gaeaf".

Ychwanegodd er bod y gwasanaeth ambiwlans wedi methu targed o gludo cleifion am y tro cyntaf, "mae hynny gan fod mwy o bobl yn dod drwy'r drysau ac felly o ganlyniad mae'r canran wedi cwympo".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Eleni gwnaethom ddarparu £30m ychwanegol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol, yn gynt nag erioed o'r blaen, i'w helpu i ychwanegu gallu iechyd a gofal cymdeithasol wrth baratoi ar gyfer pwysau cynyddol y gaeaf.

"Rydym yn cydnabod bod y galw yn parhau i fod yn uchel a bod staff yn gweithio'n hynod o galed i ymateb i'r pwysau sylweddol drwy'r system.

"Rydym yn gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd i sicrhau eu bod yn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i gleifion.