Recordiau Sain: 'Dim cynllun' i gefnogi'r diwydiant cerdd

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Roberts yw prif weithredwr cwmni recordiau Sain

Mae yna ddiffyg strategaeth gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant cerdd yng Nghymru, yn ôl cwmni recordiau blaenllaw.

Mae Sain yn dathlu 50 mlynedd o ryddhau cerddoriaeth ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst yr wythnos hon.

Yn ôl Dafydd Roberts, prif weithredwr y cwmni, mae angen i'r llywodraeth sefydlu corff fyddai'n goruchwylio'r maes yn ei gyfanrwydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ymdrechion "ar draws y sbectrwm" i gefnogi'r diwydiant yng Nghymru.

'Dim trosolwg'

Ar ôl 15 mlynedd fel prif weithredwr Sain, mae Mr Roberts wedi dweud wrth y Post Cyntaf bod "bwlch" yn tyfu o fewn y diwydiant.

"Dwi'n meddwl bod angen corff i gynrychioli'r diwydiant yn ei gyfanrwydd," meddai wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

"Mae mor bwysig rhoi trosolwg. Mae angen corff hyd braich o'r llywodraeth, fel y Cyngor Llyfrau i weisg a Ffilm Cymru ac Opera Cymru ac ati.

"Does gan gerddoriaeth ddim un corff i edrych ar ôl ei fuddiannau.

"Fe ddylai gael nawdd - fel y gweddill - o'r pwrs cyhoeddus. Mi oedd y llywodraeth yn cynnal y Welsh Music Foundation, tan iddyn nhw stopio ariannu hwnnw."

Fe ddaeth Sefydliad Cerdd Cymru i ben yn 2014 ar ôl colli nawdd Llywodraeth Cymru.

Ar y pryd fe ddywedodd y llywodraeth eu bod yn archwilio opsiynau i ddatblygu gwasanaeth cynghori ar gyfer y diwydiannau creadigol.

Ers cael ei ddiddymu, mae Sain yn teimlo bod angen rhywbeth tebyg sy'n cynrychioli recordio, cerddoriaeth fyw, hyfforddiant, teithio, allforion, marchnata a hyrwyddo.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd band Bwca ei sefydlu dwy flynedd yn ôl

Yn fand gafodd ei ffurfio dwy flynedd yn ôl yn barod ar gyfer Eisteddfod Ceredigion yn 2020, mae Bwca yn dysgu mwy am y diwydiant gyda phob profiad newydd.

Maen nhw'n ategu pryderon Sain, ac fe ddywedodd eu prif leisydd, Steff Rees, bod rheoli'r band yn gallu bod yn gymhleth.

"Dros y gaeaf ni'n meddwl y byddwn ni'n eithaf tawel. Ry' ni tu allan i fybyl cerddorol Caerdydd a Chaernarfon felly ni'n poeni am 'ny," meddai.

"Byddai'n neis cael mwy o gymorth. Ni'n fand annibynnol sy' ddim yn gweithio gydag unrhyw label proffesiynol ar hyn o bryd.

"Mae'r busnes hawlfraint a gwneud gwaith papur yn minefield.

"Byddai'n neis cael rhyw bwynt cymorth a gweithio gyda rhywun sy'n mynd i roi hyder i ni fod ni'n 'neud pethau'n iawn er mwyn i ni wedyn allu canolbwyntio ar greu cerddoriaeth."

'Diogelu talent Cymru'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ymdrechion yn cael eu gwneud "ar draws y sbectrwm" i gefnogi'r diwydiant yng Nghymru.

"Mae hynny'n cynnwys ariannu rhaglen PYST sy'n dosbarthu caneuon digidol a hyrwyddo labeli ac artistiaid Cymru - y cyntaf o'i fath yng Nghymru."

Yn ôl llefarydd "mae PYST yn gallu teilwra gwasanaethau yn benodol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg".

"Mae'r llywodraeth hefyd yn cydweithio gyda chyrff er mwyn teilwra'r gefnogaeth sydd ei angen ar y diwydiant, a helpu i ddiogelu dyfodol talent Cymru," meddai.