HS2: 'Dim llawer o fuddiannau i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
HS2 trainFfynhonnell y llun, Siemens/ PA
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut allai tren HS2 edrych

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi eu bod am fwrw ymlaen gyda chynllun rheilffordd cyflym HS2.

Bydd system trenau cyflym HS2 (High Speed Rail) yn ymestyn llinellau trenau cyflym o Lundain i ogledd Lloegr. Cafodd trenau cyflymder uchel HS1 eu cyflwyno i Brydain gyntaf yn 2007, gyda'r trenau yn mynd o Lundain i dwnnel y Sianel.

£32.7bn oedd y gost yn wreiddiol, ond mae arbenigwyr bellach yn meddwl y bydd HS2 yn costio o leiaf £108bn i drethdalwyr Prydain.

Ond sut fydd Cymru yn elwa o HS2?

"Bydd dim llawer o fuddiannau i Gymru", meddai'r Athro Andrew Potter o Brifysgol Caerdydd.

Mae'r Athro Potter yn arbenigwr ar drafnidiaeth yn Ysgol Fusnes Caerdydd: "Bydd HS2 yn cysylltu Llundain gyda dinasoedd fel Birmingham a Manceinion, ac ymhellach i'r gogledd, ac mi fydd hynny yn gwella cysylltiadau o fewn Lloegr."

Ffynhonnell y llun, HUW JOHN, CARDIFF
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Andrew Potter o'r Ysgol Fusnes, Prifysgol Caerdydd

Er na fydd metr o HS2 yn dod i Gymru, mae'r Athro Potter yn dweud y gall siwrneiau o orsafoedd Cymreig gyflymu.

"Fe all ambell siwrnai sy'n cynnwys trac yng Nghymru wella, ond dydi hynny ddim yn sicr o ddigwydd. Os edrychwch chi ar y llinell rhwng Aberystwyth a Birmingham (drwy'r Amwythig) - fe all y siwrnai yma wella, ond dim ond wedi i'r trên groesi'r ffin i Loegr."

Mae rhai yn honni y bydd Cymru'n elwa yn economaidd gan fod dinasoedd ar y ffin wedi eu cysylltu i system HS2, ond fe all hyn gymryd blynyddoedd yn ôl yr Athro Potter.

"Mae yna ddadl y bydd gwella'r cysylltiadau rhwng Lerpwl a Llundain yn cael effaith bositif knock-on ar economi gogledd Cymru. Ond mae'n rhaid i nifer o bethau gwahanol ddigwydd er mwyn i hynny ddod yn realiti, ac fe all gymryd dipyn o amser," meddai.

'Angen HS2'

Dyw Andrew Potter ddim yn erbyn y syniad o ddatblygu HS2, ond mae'n poeni y bydd Cymru yn cael ei amddifadu yn sgil y datblygiadau.

"Mae angen HS2 ar lefel Deyrnas Unedig yn fy marn i, achos mae gwasanaethau wedi eu hymestyn yn barod.

"Ond mi fydd yn drueni os na fydd Cymru yn cael arian drwy'r hyn maen nhw'n alw'n Barnett Consequential, [proses lle rydyn ni'n cael arian yn ôl gan Drysorlys y DU am fuddsoddiad sydd ddim yn dod i Gymru'n uniongyrchol]. Dwi wedi gweld y ffigwr o £5-6bn yn cael ei drafod, sydd yn unol â chanran Cymru o boblogaeth y DU."

Bydd Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn arian o Drysorlys y Deyrnas Unedig am y gwariant ar HS2, gan mai yn Lloegr fydd mwyafrif helaeth o'r adeiladu yn digwydd, gyda rhywfaint o ddatblygiadau yn yr Alban.

Disgrifiad o’r llun,

£32.7bn oedd cost HS2 yn wreiddiol, ond mae bellach yn cael ei amcangyfrif i fod dros £108bn. Mae disgwyl i'r llinell rhwng Llundain a Birmingham agor yn 2026

Mae yna ddadl ar y ddwy ochr os fyddai HS2 yn niweidiol i'r amgylchedd ai peidio. Mae rhai yn dweud y byddai adeiladu ar wyrddni lle mae natur yn ffynnu yn creu niwed trychinebus, ac mae eraill yn dadlau y byddai cael trenau cyflym gyda llai o arosfannau yn golygu llai o arafu a chyflymu ar y cledrau, a fyddai'n well i fyd natur.

"Fe fyddai 'na waith adeiladu mawr, ond dim mwy na beth fyddech chi'n ei ddisgwyl wrth adeiladu priffordd. Mae effeithiau amgylcheddol weithiau yn cael eu gor-ddweud mewn achosion fel hyn."

Beth all gael ei wneud yng Nghymru?

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu system Metro ar gyfer de Cymru. Un o rannau mwyaf blaenllaw y Metro fydd buddsoddiad o £738m i leiniau'r cymoedd i Dreherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Choryton, gan drydaneiddio 170km o drac.

Fodd bynnag mae'r corff annibynnol sydd yn rheoleiddio'r gwasanaeth trenau ym Mhrydain wedi cyhoeddi fod teithwyr ar drenau Cymru ymysg y rhai lleiaf bodlon yn y DU.

Felly, pe bai Cymru yn cael arian yn ôl yn sgil datblygiadau HS2, beth mae'r Athro Potter yn meddwl allai gael ei wneud yma?

"Os byddai gan Gymru £5-6bn i'w wario yn benodol ar drafnidiaeth fe all hynny gael effaith anferth yma. Bydden i'n dechrau dau brosiect, sef trydaneiddio'r llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe, ac efallai yn fwy i'r gorllewin i Gaerfyrddin a hyd yn oed Sir Benfro. Ac mi fydden i hefyd yn edrych i drydaneiddio llinell y gogledd.

"Mae yna astudiaethau yn cael eu gwneud i weld pa mor ymarferol fyddai ail-agor y llinell rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, ac fe allech wneud y llinellau yn y canolbarth yn rhai dwbl er mwyn caniatáu mwy o wasanaethau."

Hefyd o ddiddordeb: