HS2: Mark Drakeford yn beirniadu 'lladrad' trenau Cymru

  • Cyhoeddwyd
TrenFfynhonnell y llun, SIEMENS/PA
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o un o drenau cynllun HS2

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar lywodraeth San Steffan i roi terfyn ar yr hyn mae'n ei alw'n "lladrad mawr trenau Cymru".

Daw sylwadau Mark Drakeford yn sgil y penderfyniad i fwrw ymlaen gyda chynllun dadleuol trenau HS2, sydd ddegau o biliynau o bunnoedd dros wariant.

Roedd Mr Drakeford yn ymateb i gwestiwn yn y Senedd ddydd Mawrth, pan wnaeth y gymhariaeth rhwng yr hyn oedd yn ei weld yn digwydd i Gymru, gyda lladrad drenau enwog yn 1963.

Yn gynharach roedd un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai Cymru gael cyfran deg o'r manteision o gynllun y rheilffordd gyflym.

Dywedodd y Farwnes Eluned Morgan fod Cymru wedi bod ar ei cholled dros y blynyddoedd wrth edrych ar wariant ar isadeiledd, ac nid oedd am weld hyn yn digwydd gyda HS2.

Mae cefnogwyr y cynllun yn dadlau y bydd Cymru'n elwa yn y tymor hir.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart y bydd teithwyr yng Nghymru yn "manteisio o ymrwymiad llywodraeth y DU i wella isadeiledd".

Beth ydy cynllun HS2?

Bydd system trenau cyflym HS2 (High Speed Rail) yn ymestyn llinellau trenau cyflym o Lundain i ogledd Lloegr.

Cafodd trenau cyflymder uchel HS1 eu cyflwyno i Brydain gyntaf yn 2007, gyda'r trenau yn mynd o Lundain i dwnnel y Sianel.

£32.7bn oedd y gost yn wreiddiol, ond mae arbenigwyr bellach yn meddwl y bydd HS2 yn costio o leiaf £108bn i drethdalwyr Prydain.

Wrth annerch Aelodau'r Cynulliad, dywedodd Mr Drakeford: "Does gennym ni ddim sicrwydd o gwbl gan lywodraeth y DU os bydd unrhyw arian yn llifo i Gymru o ran y cyhoeddiad sydd wedi ei wneud neu o ran bysiau neu o ran unrhyw gysylltiad gyda'r cyhoeddiad am HS2.

"Wrth gwrs mae'n rhaid i arian ddod i Gymru. Bydd yr aelodau yma yn ymwybodol iawn o'r ffigyrau: mae gennym 11% o'r traciau rheilffyrdd, 20% o'r croesfannau... ac rydym wedi cael 2% o wariant dros y 10 mlynedd diwethaf."

Ffynhonnell y llun, Senedd.tv
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yn ateb cwestiynnau aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth

Ychwanegodd: "Mae lladrad mawr trenau Cymru gan y Torïaid angen dod i ben ac rydym yn edrych ymlaen i glywed ar ôl heddiw fod y lladrad mawr trenau yma'n dod i ben."

Mae cefnogwyr y cynllun yn dadlau y bydd cyflymder a chynhwysedd y rheilffyrdd rhwng Llundain a gogledd Lloegr yn gwella, ond dywed eraill na fydd unrhyw fudd i economi Cymru.

Mae penderfyniad Boris Johnson i fwrw ymlaen gyda chynllun uchelgeisiol HS2 wedi bod yn ddadleuol, gyda nifer yn gofyn sut y bydd Cymru'n elwa ohono.

Dywedodd yr Athro Mark Barry, sy'n helpu cynghori Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth bod HS2 "ddim o unrhyw fudd i Gymru".

"Fel y mae nawr, ry'n ni'n cefnogi cynllun enfawr yn Lloegr sydd ddim o unrhyw fudd i Gymru - ac yn cael dim buddsoddiad. Mae'n warthus," meddai.

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Jonathan Edwards AS bod "HS2 yn sarhau trethdalwyr Cymru".

"Rydyn ni'n colli allan ar biliynau o bunnoedd o nawdd sydd gennym hawl iddo - dyw hi ddim yn gredadwy i Lywodraeth San Steffan ddadlau bod y prosiect yn un 'Cymru a Lloegr' pan does yr un fodfedd o'r trac yn ein gwlad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan ydy Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru

Yn ôl ffigyrau Adran Trafnidiaeth llywodraeth San Steffan, fe allai economi de Cymru fod ar ei cholled o £200m, er y gallai gogledd ddwyrain Cymru fanteisio ychydig ar y cynllun.

Dywedodd Eluned Morgan fod Cymru wedi derbyn £755m o ganlyniad i gynllun HS2 hyd yn hyn, sydd yn llai na'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Y rheswm am hyn yw achos nad ydy isadeiledd y rheilffyrdd wedi ei ddatganoli i Gymru.

Ychwanegodd Ms Morgan fod Cymru ar ei cholled yn ariannol achos mai dim ond 1% o wariant ar welliannau i'r rheilffyrdd oedd y wlad yn ei dderbyn, er bod 5% o boblogaeth y DU yn byw yma.

"Rydym yn awyddus iawn i gael ein cyfran deg bob tro ac rydym yn teimlo dros y blynyddoedd, yn enwedig pan mae'n dod i isadeiledd y rheilffyrdd, nad dyma yw'r achos," meddai.

Ysgrifennydd Cymru

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y cynllun, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Fe fydd teithwyr yng Nghymru yn manteisio o ymrwymiad llywodraeth y DU i wella isadeiledd, yn cynnwys ein buddsoddiad yn HS2.

"Unwaith y bydd cynllun HS2 wedi ei gwblhau fe fydd amseroedd teithio yn fyrrach o orsafoedd gogledd Cymru i Crewe, Llundain a dinasoedd eraill.

"Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mwy nag erioed yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru.

"Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn cynnydd mewn gwariant o ganlyniad i gadarnhau cynllun HS2 a'r cynlluniau ar gyfer llwybrau beicio a bysiau gafodd eu cyhoeddi ar gyfer Lloegr heddiw."