Cosbi gweithwyr cartref gofal a glymodd bachgen 15 oed
- Cyhoeddwyd
Mae panel disgyblu wedi dyfarnu nad yw dau weithiwr cartref gofal yn ffit i wneud y gwaith ar ôl clymu bachgen 15 oed gyda gorchudd plastig.
Roedd Richard Burnell a Kyle Johnson yn gofalu am y bachgen yng nghartref plant Arthog yng Ngwynedd.
Cafodd y ddau eu cyhuddo o gamymddygiad difrifol wedi i lun a fideos llawn rhegfeydd ddod i'r fei, yn dangos y bachgen wedi ei glymu mewn cling film a'i gagio gyda thâp fel cosb.
Daeth panel Gofal Cymdeithasol Cymru i'r casgliad bod yr holl honiadau yn erbyn Burnell a Johnson wedi'u profi.
Mae'r ddau wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr gweithwyr gofal cymdeithasol.
'Edrych fel parti stag'
Yn ôl cadeirydd y panel, James Crowe, mae'r gorchymyn "yn angenrheidiol i warchod y cyhoedd, ac ymddiriedaeth y cyhoedd".
Dywedodd Mr Crowe bod un o'r ffotograffau'n "dangos yn glir bod Person Ifanc A wedi ei rwymo'n llym â thâp a cling film".
"Mae'n eistedd, a dydy hi ddim yn ymddangos ei fod mewn gofid," meddai.
"Mae'n glir o'r llun na allai Person Ifanc A fod wedi rhwymo ei hun."
Roedd y panel, meddai, yn sicr bod Burnell a Johnson "ill dau wedi cymryd rhan yn y digwyddiad".
Clywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd bod mam y bachgen "wedi'i llorio ac yn benisel" ar ôl darganfod lluniau a fideos o'r digwyddiad.
"Doeddwn i ddim yn teimlo bod hi'n amlwg o'r fideos pwy oedd mewn awdurdod," meddai'r fam. "Roedd yn edrych fel parti stag."
Roedd y bachgen wedi dweud wrth weithiwr cymdeithasol mai "jôc oedd y cyfan" a'i fod wedi gofyn i Burnell a Johnson i'w glymu.
Clywodd y gwrandawiad bod y ddau hefyd wedi defnyddio "iaith amhriodol" tuag at y bachgen yn y lluniau fideo.
Cafodd y ddau weithiwr gofal eu gwahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020