Elusen yn galw am adnabod diabetes ymhlith plant

  • Cyhoeddwyd
Glesni Pugh
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Glesni Pugh wybod pan oedd hi'n 10 oed ei bod yn dioddef o diabetes

Mae tua 1,400 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn byw gyda diabetes math 1 a dydd Llun bydd diwrnod yn cael ei drefnu yn y Senedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Dywed trefnwyr y diwrnod, Diabetes UK Cymru, ei bod hi'n bwysig adnabod y cyflwr ymhlith plant cyn iddyn nhw fynd yn rhy sâl.

Bydd y diwrnod hefyd yn nodi'r hyn y mae dioddefwyr o'r cyflwr yn gallu ei gyflawni - gan ddefnyddio pobl enwog fel modelau rôl - yn eu plith chwaraewraig rygbi'r Gweilch, Amy Evans, sydd hefyd wedi bod yn chwarae i Gymru.

Dywedodd: "O gael clefyd siwgr (math 1) roeddwn i'n lwcus iawn i gael diagnosis pan oeddwn i'n 11 oed cyn mynd yn rhy sâl - digwyddodd hynny 'wi'n credu am fod fy rhieni yn ymwybodol o'r symptomau.

"Mae'n bwysig fod plant a phobl ifanc sy'n byw 'da'r cyflwr yn gwybod nad yw'r cyflwr, o reidrwydd, yn eich dal yn ôl.

"Os yn cael diagnosis iawn a chynnar - mae modd gwneud unrhyw beth."

Profiadau Glesni

Cafodd Glesni Pugh, 23 oed o Abertawe, sy'n astudio cwrs meistr milfeddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl wybod yn 10 mlwydd oed ei bod yn dioddef o diabetes math 1.

"Er bod fy mam-gu yn nyrs doedd hi ddim yn ymwybodol o'r symptomau a doedd Dad a Mam ddim yn ymwybodol ohonyn nhw chwaith," meddai.

"Wedi diagnosis nes i wella'n gloi ond weithiau dwi methu canolbwyntio, yn crynu a llewygu - mae astudio yn anodd bryd hynny.

"Roedd fy mhlentyndod i yn hapus er bod pigiadau inswlin yn newid byd ac yn rhan o fywyd pob dydd - doedd plant ddim wastad yn deall."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glesni yn gobeithio mynd i wneud doethuriaeth yn Affrica

Ychwanegodd Glesni: "Mae'n bwysig iawn cael modelau rôl i blant sydd yn dioddef - dwi fy hun newydd siarad ag un ferch sydd wedi cael diagnosis.

"Ydy, mae bywyd yn wahanol ond ry'ch chi yn ystyried pethau yn wahanol - mae'n bwysig bwyta'n gyson a chadw'n heini ond dwi, er enghraifft, yn gobeithio mynd i 'neud PhD yn Affrica.

"Ond mae'n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth - fel bod mwy o bobl yn deall."

Symptomau mwyaf cyffredin

  • Mynd i'r toiled yn amlach neu gewynnau trymach ymhlith babanod;

  • Bod yn hynod sychedig;

  • Bod yn fwy blinedig nag arfer;

  • Colli pwysau a bod yn deneuach nag arfer.

Os yw plentyn yn dioddef o un o'r cyflyrau uchod mae'n rhaid mynd â nhw yn syth am brawf at y meddyg - ac mae modd i'r meddyg teulu roi diagnosis yn syth.

Os nad yw diabetes math 1 yn cael ei adnabod yn fuan gall arwain at gyflwr ketoacidosis - cyflwr a all beryglu bywyd.

Mae gan Gymru gysylltiad agos â chanfod inswlin gan mai Elizabeth Evans Hughes, oedd â'i gwreiddiau yn Nhredegar, oedd un o'r cleifion cyntaf i'w dderbyn yn Toronto yn 1922.

Yn y Senedd ddydd Llun, bydd ei hŵyr, yr Athro David W Denning o Brifysgol Manceinion, yn cyflwyno medalau Elizabeth Evans Hughes i rai pobl sy'n dioddef o diabetes yng Nghymru.