Llwyfan iaith Gymraeg i Ŵyl Balchder Rhondda 2020
- Cyhoeddwyd
Mae Gŵyl Balchder Rhondda 2020 wedi datgan mai nhw fydd yr Ŵyl Balchder cyntaf yng Nghymru i gynnal llwyfan iaith Gymraeg fel rhan o'i rhaglen.
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Natalie Bowen, does dim gŵyl balchder wedi cynnal llwyfan hollol iaith Gymraeg gyda "rhaglen gwbl Gymraeg" o'r blaen.
"Rydyn ni'n credu bod e'n syndod does dim llwyfan iaith Gymraeg wedi cael ei gynnal o'r blaen... ac mae yna yn bendant angen amdanyn nhw," meddai.
"Dwi methu credu bod neb wedi ei wneud o'r blaen."
Ychwanegodd Mrs Bowen: "Mae yna lot o gymunedau LHDT sy'n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn yr ardal.
"Gallech chi ddychmygu bod yn siaradwr Cymraeg, a bod dal dim byd allan yna i chi?
"Ni'n credu bod e'n bwysig bod pobl, actau, cantorion, a pherfformwyr cabaret LHDT sy'n siarad Cymraeg yn cael platfform cyfartal i arddangos ein hamrywiaeth fel cymuned LHDT.
"Er fy mod i o Loegr yn wreiddiol... roedd e'n bwysig i ni, wrth feddwl am amrywiaeth, i gynnwys yr holl gymuned LHDT."
Dywedodd trefnwyr yr ŵyl bydd actau drag iaith Gymraeg a cherddorion lleol adnabyddus sy'n siarad Cymraeg, ymysg perfformwyr Cymraeg eraill, yn cymryd rhan ar y llwyfan iaith Gymraeg.
'Mynd cam yn bellach'
Yn ôl y trefnwyr, "dydyn ni heb weld lot o bethau dwyieithog ar gyfryngau cymdeithasol a gwefannau gwyliau balchder eraill o'r blaen".
"Rydym ni'n bwriadu mynd cam yn bellach wrth wneud ein cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, ein gwefan yn ddwyieithog, bydd ein baneri yn ddwyieithog, a byddwn yn gwneud yn sicr ein bod yn defnyddio cwmni diogelwch sydd gyda staff sy'n siarad Cymraeg."
Bydd Gŵyl Balchder Rhondda yn digwydd yn Nhreorci ym mis Medi ac yn cynnwys prif lwyfan dwyieithog yn ogystal â llwyfan iaith Gymraeg.